Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau Gwaith » Archwiliadau Cyn Cyflogaeth



Archwiliadau cyn cyflogaeth

Pan fyddi di'n dechrau mewn swydd newydd, efallai bydd dy gyflogwr eisiau gwirio nifer o bethau i weld os wyt ti'n addas.

Bydd y mathau o bethau bydd dy gyflogwr yn eu gwirio yn dibynnu ar y swydd.

Dogfennau adnabod

  • Cyn i ti gychwyn gweithio i gyflogwr newydd mae'n debygol byddant eisiau prawf fod gen ti'r hawl i weithio yn y DU
  • Bydd angen i ti ddangos dogfen neu gyfuniad o ddogfennau i gadarnhau dy fod di'n gymwys (ee. tystysgrif geni, pasport, fisa neu drwydded weithio os nad wyt ti'n ddinesydd cenedlaethol). Dylai'r cyflogwr ddweud wrthot ti pa ddogfennau sydd angen arnynt
  • Bydd y dogfennau fydd eu hangen arnat ti yn dibynnu ar p'un a wyt ti'n weithiwr, yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Tystlythyrau

  • Gall cynnig swydd ddibynnu ar y cyflogwr yn cael tystlythyr gan dy gyflogwr presennol, ac efallai cyn cyflogwyr hefyd

Archwilio cefndir

  • Pan fod swydd yn gysylltiedig â diogelwch efallai bydd y cyflogwr eisiau archwilio dy gefndir
  • Yn achos rhai swyddi gwasanaethau ariannol, gall hyn hefyd gynnwys dy hanes credyd
  • Dylai'r cyflogwr drin pob ymgeisydd yn yr un ffordd yn ystod y broses recriwtio

Monitro cyfle cyfartal

  • Nid oes cyfraith yn erbyn casglu gwybodaeth am hil ac ethnigrwydd wrth recriwtio. Mae llawer o sefydliadau yn dewis gwneud hyn er mwyn monitor effeithiolrwydd eu polisi cyfle cyfartal. Ond, nid oes rhaid i ti roi'r wybodaeth yma os nad wyt ti am wneud hynny
  • Os wyt ti'n meddwl bod rhywun yn archwilio'n fwy manwl i mewn i dy gefndir nag unrhyw un arall oherwydd dy ethnigrwydd, gallet ti gwyno i Dribiwnlys Cyflogaeth yn ôl deddfau gwahaniaethu ar sail hil
  • Ni ddylai cyflogwr dy drin yn wahanol am dy fod di'n 'edrych yn dramorwr' neu gydag enw sy'n 'swnio'n fel un tramor'
  • Ni ddylai cyflogwr trin ti'n wahanol oherwydd dy ryw, statws priodasol, tueddfryd rhywiol na chrefydd. Er enghraifft, os wyt ti'n ddynes, ni ddylai unrhyw un ofyn i ti os wyt ti'n bwriadu cael plant yn fuan, gan y gallai hyn gael ei ddefnyddio i wahaniaethu yn dy erbyn a ffafrio ymgeisydd gwryw. Darllena ein hadran Gwahaniaethu

Archwiliadau iechyd

  • Efallai bydd yn rhaid i ti gael archwiliad iechyd os yw hynny'n un o ofynion cyfreithiol y swydd (er enghraifft, cael prawf llygaid ar gyfer swydd fel gyrrwr)
  • Dylid hysbysu ti o unrhyw archwiliadau iechyd yn y llythyr sy'n cynnig y swydd i ti
  • Efallai bydd dy gyflogwr yn gofyn am adroddiad meddygol, ond os ydynt eisiau un, mae'n rhaid iddynt gael polisïau i'w gadw'n ddiogel
  • Os wyt ti'n anabl, ni ddylid defnyddio dy anabledd fel rheswm dros ddewis ti yn benodol ar gyfer prawf iechyd heb reswm da. Os wyt ti, a ti ddim yn cael y swydd o ganlyn hyn, gallet gwyno i Dribiwnlys Cyflogaeth
  • Mae'n anghyfreithlon bod yn anffafriol i rywun oherwydd ei anabledd. Dydy hyn ddim yn golygu y bydd hi bob amser yn anghyfreithlon i ofyn i berson anabl gael archwiliad iechyd, hyd yn oed os nad ofynnir i ymgeiswyr eraill. Mae'n dibynnu ar natur dy anabledd ac anghenion y swydd

Archwilio cymwysterau

  • Os wyt ti angen cymwysterau, hyfforddiant neu drwyddedau penodol ar gyfer swydd, gall dy gyflogwr ofyn am brawf eu bod nhw gen ti
  • Dylen nhw roi gwybod i ti os ydyn nhw'n cynnal yr archwiliadau yma ac os ydyn nhw'n bwriadu cadw copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol ar ffeil

Archwilio cofnodion troseddol

Mewn amgylchiadau arferol ni all cyflogwyr ofyn iti am euogfarnau sydd wedi darfod, ond bydd rhai cyflogwyr angen archwilio os oes gen ti gofnod troseddol.

Bydd rhaid i ti ddatgelu unrhyw euogfarnau os wyt ti'n ymgeisio am swydd neu'n gwirfoddoli:

  • Yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus
  • Fel cyfrifydd neu fargyfreithiwr
  • Gyda'r heddlu
  • Yn gysylltiedig â gweinyddu ym meysydd cyfiawnder neu reoliad ariannol

Mae'n rhaid bod cyflogwr wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i gynnal archwiliadau cofnodion troseddol. Codi'r tâl am hyn a gall y cyflogwr ofyn i ti ei dalu.

Tynnu cynnig swydd yn ôl

  • Gall cyflogwr dynnu cynnig swydd yn ôl hyd yn oed ar ôl i ti ei dderbyn os daw unrhyw ganlyniadau anfoddhaol o unrhyw archwiliad, cyn belled â'u bod wedi rhoi gwybod i ti mai amodol oedd y cynnig cyn i ti ei dderbyn

Materion diogelu data

  • Dim ond gwybodaeth sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol i'r archwiliad y maen nhw am ei gynnal dylai'r cyflogwr ei gael
  • Hefyd bydd rhaid i'r cyflogwr wneud yn sicr bod unrhyw ddefnydd o wybodaeth bersonol amdanat ti yn cydymffurfio gydag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998
  • Rhaid cadw dy gofnodion cyflogaeth yn ddiogel ac, os nad ydynt yn cael eu cadw'n unol â gofynion statudol, dylid cael gwared arnynt yn ddiogel pan fyddi di'n gadael dy gyflogwr. Mae gen ti hawl i weld unrhyw wybodaeth sydd yn cael ei gadw arnat ti
  • Mae'n rhaid i gyflogwr adael i ti weld y wybodaeth yma o fewn 40 diwrnod o ddyddiad dy gais i'w gweld a gallent godi ffi o hyd at £10 arnat ti

Related Media

Useful Links

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50