Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau Gwaith » Cyfnod Pontio
Yn yr Adran Hon
Cyfnod Prawf
Mae cyfnod prawf yn cael ei gytuno pan gynigir y swydd, a dylai gael ei amlinellu yn y telerau ac amodau cyflogaeth neu gytundeb.
- Mae cyfnod prawf fel arfer rhwng mis a chwe mis, sydd yn cael ei gytuno ar gychwyn y gyflogaeth
- Mae'n gyfle i dy gyflogwr newydd asesu dy sgiliau yn y swydd a gweld sut wyt ti'n ffitio i mewn i'r rôl a gyda gweddill y cwmni neu sefydliad
- Mae'r cynnig cyflogaeth yn amodol ar gwblhau'r cyfnod hwn yn llwyddiannus
- Bydd rhai cyflogwyr yn defnyddio hwn fel cyfle i gymryd siawns ar gyflogwyr newydd sydd ddim o reidrwydd efo llawer o brofiad ond yn ymddangos i fod yn addas ar gyfer y swydd yn y cyfweliad
- Dylai ti hefyd gweld hyn fel cyfle i asesu pa mor dda wyt ti'n ffitio i mewn i'r rôl a gyda'r cwmni neu sefydliad
- Fe ddylet ti gael cyfarfod datblygiad gyda dy gyflogwr, fel arfer tua hanner ffordd trwy'r cyfnod prawf, i drafod sut mae pethau yn mynd ac i benderfynu os oes angen unrhyw addasiadau
- Os nad yw dy gyflogwr yn teimlo dy fod wedi cwblhau gofynion y cyfnod prawf yna gallent derfynu dy gyflogaeth