Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg Uwch » Cyfweliadau



Cyfweliadau Addysg Uwch

Mae cyfweliadau am leoedd prifysgol ar y cyfan yn llai cyffredin o lawer nag oedden nhw'n arfer bod. Gan ddibynnu ar y brifysgol a/neu’r cwrs/cyrsiau rwyt ti wedi gwneud cais amdanyn nhw, efallai na chei di gyfweliad ond yn cael dy ddewis ar sail yr hyn wyt ti wedi'i roi ar dy ffurflen cais.

Ond, mae prifysgolion penodol yn parhau i gyfweld llawer o ymgeiswyr, a byddet yn bendant yn cael cyfweliad ar gyfer cyrsiau penodol fel meddygaeth, nyrsio a dysgu.

Mae llefydd yn gyfyng ar rhai cyrsiau felly mae'r prifysgolion eisiau dewis yr ymgeiswyr maen nhw'n teimlo bydd yn cyflawni orau.

Mae'r mwyafrif o bobl yn teimlo'n nerfus wrth feddwl am gyfweliad ond gall paratoi helpu ti i ddod dros hyn.

Ychydig o awgrymiadau gall helpu:

  • Meddylia am y cwrs ti wedi gwneud cais amdano – beth sydd yn gwneud ti yn addas iddo. Pam wyt ti wedi dewis y cwrs astudio penodol yma?
  • Ceisia ddarganfod mwy am y brifysgol – meddwl am pam ti wedi dewis y sefydliad academaidd penodol hwnnw ar gyfer dy astudiaethau a'r atebion fydda ti yn ei roi os gofynnir y cwestiwn hwnnw. Mae'r mwyafrif o brifysgolion yn hoffi meddwl mai enw da mewn dysgu sydd yn denu myfyrwyr ac nid fod y lleoliad yn gyfleus
  • Gwna'n sicr fod gen ti gwestiynau yn barod i ofyn yn y cyfweliad gan fod hyn yn dangos dy fod di wedi meddwl am y cwrs a beth mae'n golygu
  • Siarada yn glir ac osgoi atebion 'ia' a 'na' syml, maent yn gofyn y cwestiynau er mwyn darganfod mwy amdanat ti
  • Os nad wyt ti'n llwyddiannus mewn cael lle, cofia bod cael dy wrthod yn rhan o fywyd a ddim yn rhywbeth i gosbi dy hun amdano a cheisia ddysgu o'r profiad. Dydy cael dy wrthod ddim yn golygu nad wyt ti'n gymwys i astudio yn rhywle arall

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50