Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg Uwch » Astudio Dramor
Yn yr Adran Hon
Astudio Dramor
Mae byw ac astudio dramor yn ffordd ardderchog o ehangu dy orwelion a dysgu sgiliau defnyddiol megis ieithoedd.
Mae rhai cyrsiau yn cynnig yr opsiwn o astudio am flwyddyn mewn prifysgol mewn gwlad arall. Gall hefyd fod yn ffordd dda o ddarganfod sut byddai bywyd mewn gwlad arall os bydda ti'n cysidro symud yno.
Mae yna ychydig o bethau dylai ti gysidro:
- Oes gen ti sgiliau iaith ddigonol i allu ymdopi?
- Fydd hyn yn costio arian i ti?
- Wyt ti'n ddigon annibynnol i oroesi mewn gwlad dramor?
Manteisia ar unrhyw gyfleoedd a ddaw i ti, ond gwna'n sicr dy fod wedi ystyried pethau yn ofalus gyntaf.
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn yr adran Dy Fyd am Fyw Dramor.