Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg Uwch » Gwneud Cais



Gwneud Cais

Gall gwneud cais am le yn y brifysgol fod yn broses hir, ac mae’n bwysig gwneud ymchwil a chymryd dy amser i’w gael yn iawn.

Mae'r mwyafrif o geisiadau ar gyfer gradd llawn amser, Gradd Sylfaen a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) yn cael eu gwneud trwy UCAS – Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau. (Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau rhan amser fel arfer yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'r sefydliad).

Mae holl geisiadau i gyrsiau sydd yn cael eu cynnig mewn prifysgolion a cholegau yn y DU yn cael ei wneud ar-lein bellach gan ddefnyddio Ymgeisio.

  • Gall cael mynediad i hwn drwy wefan UCAS ac mae'n darparu sustem ymgeisio ar-lein diogel nad oes rhaid i ti osod ar dy gyfrifiadur. Golygai hyn gallet ti gwblhau dy ffurflen ar gyfrifiadur a bydd hwn yn cael ei yrru i UCAS trwy'r we.
  • Mae Ymgeisio efo canllawiau llawn a thestun help ar-lein.
  • Mae hefyd llyfryn canllaw ar gael am Ymgeisio Ar-lein sydd yn cael ei roi i ti os wyt ti yn yr ysgol neu goleg.

Mae gwefan Gyrfa Cymru efo'r holl help a chyngor fydd ei angen arnat ti i gwblhau'r cais gorau posib gan gynnwys dyddiadau cau ac awgrymiadau ar ysgrifennu dy ddatganiad personol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50