Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyfrifoldebau » Cyfrifoldebau



Cyfrifioldebau

Fel dinesydd sydd â hawliau mae angen i ti fod yn ymwybodol fod eraill â’r un hawliau ac felly mae gen ti gyfrifoldeb i barchu hawliau pobl eraill.

Mae gen ti hefyd gyfrifoldebau i ti dy hun, i dy deulu a ffrindiau.

Gall fod yn ddryslyd gwybod a deall y cyfrifoldebau yma weithiau, ac mae bob amser yn syniad da gofyn am help neu chwilio am eglurhad os nad wyt ti’n glir am rai o'r hawliau neu gyfrifoldebau.

Dyma rai enghreifftiau o dy gyfrifoldebau:

  • Deall yr hawliau a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â rôl benodol e.e. fel disgybl, myfyriwr, hyfforddai, gweithiwr neu rywun sy’n chwilio am waith. Bydd y rhain yn cael eu hegluro fel arfer yn ystod sesiwn ymsefydlu a/neu yn llawlyfr y sefydliad
  • Defnyddio gwerthoedd moesol, megis tegwch, gonestrwydd, y gwir neu gyfiawnder, mewn sefyllfa benodol
  • Deall a pharchu eraill o ddiwylliannau, cenhedloedd, rhyw, crefyddau, cefndiroedd ethnig a chymunedau gwahanol i rai ti dy hun
  • Brwydro yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu
  • Bod yn ymwybodol o ragfarn mewn ffynonellau gwybodaeth a’r cyfryngau
  • Rheoli dy arian/cyllid
  • Bod yn ymwybodol o risgiau ac ansicrwydd wrth ddewis neu benderfynu, a meddwl amdanyn nhw
  • Ceisio deall y canlyniadau i ti dy hun ac i eraill unwaith y byddi di wedi penderfynu ar rywbeth neu wedi cymryd camau
  • Penderfynu ar y ffordd orau o ddelio â phroblemau a materion
  • Dysgu i ddeall sut i ymdopi â newid, hyd yn oed pan na fyddi di'n hoffi’r newid neu’n cytuno ag ef

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50