Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyfrifoldebau » Hawliau Dynol



Hawliau Dynol

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu bod gennym ni hawliau sydd wedi’u cydnabod yng ngolwg y gyfraith.

Fodd bynnag, drwy gytuno i’r hawliau hyn cymerir y byddi dithau hefyd yn cynnal hawliau pobl eraill h.y. cydnabod dy gyfrifoldebau a pheidio â thorri’r gyfraith.

Dyma restr o dy hawliau dynol:

  • Yr hawl i fywyd
  • Rhyddid rhag artaith a thriniaeth ddiraddiol
  • Rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
  • Yr hawl i ryddid
  • Yr hawl i dreial teg
  • Yr hawl i beidio â chael dy gosbi am rywbeth nad oedd yn drosedd pan gafodd ei wneud
  • Yr hawl i barch tuag at breifatrwydd a bywyd teuluol
  • Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd
  • Rhyddid mynegiant h.y. i fod â barn ac i roi a derbyn gwybodaeth
  • Rhyddid ymgynnull e.e. i ymuno ag undeb a gwrthdystio mewn grŵp
  • Yr hawl i briodi a chychwyn teulu – cafodd deddfwriaeth ei basio yng Ngorffennaf 2013 i ganiatáu priodas rhwng dau o'r un rhyw yn Lloegr a Chymru
  • Yr hawl i beidio â chael rhywun yn gwahaniaethu yn dy erbyn o ran yr hawliau a’r rhyddid yma
  • Yr hawl i fod yn berchen ar eich eiddo dy hun
  • Yr hawl i addysg
  • Yr hawl i etholiadau rhydd

Os bydd yr hawliau a'r rhyddid yma yn cael eu camddefnyddio, mae gen ti'r hawl i ddatrysiad effeithiol dan y gyfraith, hyd yn oed os mai rhywun mewn awdurdod fydd yn eu camddefnyddio e.e. yr heddlu.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50