Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyfrifoldebau » Hawliau LLCC

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am i bob unigolyn ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed fod â’r un hawliau, pethau y caniateir iddyn nhw eu gwneud/ y dylen nhw eu cael/ y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Daw cyfrifoldebau law yn llaw â hawliau – yn achos oedolion ac yn eich achos chi fel rhywun ifanc. Y pethau y mae’r Cynulliad o’r farn y dylech chi fod â hawl iddyn nhw yw cyfleoedd a dewis:


1. Eich Hawliau
a. I ddysgu beth yw’ch hawliau a’u deall
b. Gwneud yn siwr eich bod yn gallu eu hawlio a’u deall, a derbyn y cyfrifoldebau ddaw yn eu sgïl.

2. Cael eich Clywed
Mae gennych chi hawl i gael cyfle i chwarae rhan mewn gwneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred a allai effeithio arnoch chi. Bod â llais, bod â dewis, hyd yn oed os nad chi sy'n gwneud y dewis eich hun; eich llais chi, eich dewis chi.

3. Teimlo’n Dda
Teimlo’n hyderus a theimlo’n dda ynglyn â chi’ch hun.

4. Addysg a Chyflogaeth
a. Gallu dysgu am bethau sydd o ddiddordeb i chi ac sy’n effeithio arnoch chi
b. Mwynhau’r swydd rydych chi’n ei gwneud
c. Chwarae rhan mewn gweithgareddau rydych chi’n eu mwynhau, gan gynnwys hamdden, chwaraeon, gweithgareddau artistig, diddordebau a gweithgareddau diwylliannol.

5. Cymryd Rhan
Cymryd rhan mewn gwirfoddoli a bod yn weithredol yn eich cymuned.

6. Bod yn Unigolyn
a. Cael eich trin â pharch a chael pawb i’ch trin yn gyfartal
b. Cael eich cydnabod am yr hyn sydd gennych chi i’w gyfrannu ac am eich cyflawniadau
c. Dathlu’r hyn rydych chi’n ei gyflawni.

7. Gwasanaethau Hygyrch
Y gwasanaethau gorau yn hygyrch ichi, sef gwasanaethau y dylech chi eu cael, yn lleol ac yn genedlaethol, a bod â rhywun ar gael i’ch helpu i ddod o hyd iddyn nhw.

8. Iechyd a Lles
Arwain bywyd iach, boed yn gorfforol neu’n emosiynol.

9. Gwybodaeth a Chyfarwyddyd Hygyrch
Gallu cael gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar eich bywyd, yn ôl y galw.

10. Diogelwch Personol a Diogelwch Eiddo
Byw mewn cartref diogel a chymuned ddiogel.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50