Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Mathau o Wyliau



Mathau o Wyliau

Os ydwyt yn cynllunio gwyliau, mae yna opsiynau di-ben-draw i ti ddewis ohonyn nhw, gan ddibynnu ar ba fath o wyliau fyddi di'n hoffi ei gael

  • Mae mathau poblogaidd o wyliau yn cynnwys teithiau gweithgaredd ac antur, teithiau i weld atyniadau’r ardal, mordeithiau, gwyliau mewn dinas a gwyliau penwythnos, teithio tymor hir a bacpacio ar y rheilffordd
  • Os ydwyt yn chwilio am wyliau digynnwrf, mae gwyliau pecyn yn ddelfrydol, ond os ydwyt eisiau bod yn fwy hyblyg gallu di drefnu dy deithio a’th lety dy hun, fel ei fod yn gweddu i ti ac i’r lleoedd rwyt ti eisiau mynd iddyn nhw

Gwyliau Pecyn

  • Os ydwyt yn chwilio am daith lle mae popeth wedi’i drefnu ar dy gyfer, yna mae gwyliau pecyn yn ffordd ddiogel a hawdd o ymweld â gwlad arall
  • Mae cost y gwyliau fel arfer yn cynnwys hedfan, llety a chludiant o’r maes awyr
  • Gallu di ddewis dy lety o blith y canlynol - gwely a brecwast, hollgynhwysol (gyda’r holl brydau bwyd, diodydd a byrbrydau wedi’u cynnwys), llety llawn (tri phryd y dydd wedi’u cynnwys), llety rhannol (rhai prydau wedi’u cynnwys) neu hunan arlwyo (dim prydau wedi’u cynnwys)
  • Bydd cynrychiolydd gwyliau sy’n siarad Saesneg yn cael ei benodi ar dy gyfer, a bydd ar gael trwy gydol dy wyliau i'th dywys a’th gynghori
  • Gallet ti archebu gwyliau pecyn mewn swyddfa deithio neu ar y we ond sicrha dy fod di'n ymchwilio'r opsiynau er mwyn cael bargen dda

Teithio’n annibynnol

  • Os ydwyt eisiau mwy o hyblygrwydd o ran lle'r ydwyt yn teithio a lle'r ydwyt yn aros, gallet ti wneud dy drefniadau dy hun
  • Mae yna amryw o ffyrdd y gallet ti gyrraedd pen dy daith gan gynnwys ar awyren, ar y môr, ar drên neu ar y ffordd
  • Gallet ti archebu teithiau a llety trwy swyddfa deithio neu ar y we. Gwna'n siŵr dy fod yn ymchwilio’r opsiynau er mwyn cael y fargen orau

Teithio ar awyren

  • Fel arfer, archebu teithiau awyren dros y we yw’r ffordd rataf o gyrraedd pen dy daith
  • Mae’r rhan fwyaf o deithiau awyren yn gofyn i ti gofrestru yn y maes awyr dwy awr cyn i’th awyren adael. Os byddi di’n hwyr, ni fyddi di'n cael mynd ar yr awyren
  • Efallai mai dim ond nifer penodol o fagiau y cei di fynd â nhw gyda thi, felly pacia'n ofalus
  • Am ragor o wybodaeth cer i'r adran Teithio ar Awyren

Teithio ar y môr

  • Gall teithio ar gwch fod yn ddewis gwell, gan ddibynnu ar le'r ydwyt yn mynd
  • Gall teithio ar fferi fod yn rhatach na thaith awyren
  • Mae mordeithiau yn ffordd grêt o weld nifer o leoliadau gwahanol mewn un gwyliau
  • Cer i'r adran cychod am ragor o wybodaeth

Teithio ar drên

  • Mae teithio ar drên yn ffordd boblogaidd o deithio, yn enwedig o amgylch Ewrop
  • Mewn rhai gwledydd, efallai y bydd yn rhaid i ti archebu dy docynnau o flaen llaw, felly gwna'n siŵr dy fod yn gwirio hyn cyn i ti fynd
  • Gall y cerdyn InterRail fod yn ddull rhatach o deithio ar drenau - gweler yr adran Trenau [link to 3a2 Trains-in Welsh] am ragor o wybodaeth

Teithio ar y ffordd

  • Os ydwyt yn dymuno gyrru car dramor, bydd angen i ti gynllunio ymlaen llaw a darganfod y rheolau ar gyfer gyrwyr yn y wlad yr wyt wedi dewis mynd iddi
  • Gall hurio car fod yn ffordd wych o deithio o gwmpas a gweld gwlad. Gall hefyd fod yn rhatach os ydwyt yn teithio pellteroedd hir
  • Gall gyrru mewn gwlad dramor fod yn brofiad annifyr ar y dechrau, felly gwna'n siŵr dy fod yn gyfarwydd â rheolau’r ffordd fawr
  • Am ragor o wybodaeth cer i'r adran Ceir

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50