Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwleidyddiaeth
Yn yr Adran Hon
Gwleidyddiaeth
Mae gwleidyddiaeth yn gyffredinol yn cyfeirio at grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd i wneud penderfyniadau am y byd rydym yn byw ynddo, fel y deddfau yr ydym yn eu dilyn yn ein bywyd, sut yr ydym yn cael ein haddysgu, sut rydym yn gweithio a sut y cymerir gofal ohonom.
Yn y DU a Chymru gelwir y bobl hyn yn wleidyddion, cynghorwyr, aelodau seneddol neu weinidogion y cynulliad. Fe’u hetholir pan bleidleisiwn drostynt, rydym yn pleidleisio drostynt pan deimlwn mai nhw fyddai’r bobl orau i fod â’r pŵer i wneud penderfyniad drosom.
Mae llawer math gwahanol o lywodraethau ar draws y byd, ac mae gan bob gwlad strwythur gwleidyddol gwahanol.
Mae Cymru yn cael ei llywodraethu gan Lywodraeth Cymru sy’n llywodraeth ddatganoledig. Golyga hyn y gellir gwneud rhai penderfyniadau am iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, amaethyddiaeth a llywodraeth leol yma yng Nghymru. Gwneir penderfyniadau am gyflogaeth, nawdd cymdeithasol, plismona ac amddiffyn y wlad gan Senedd y DU.
Mae Cymru a’r DU yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd sydd â set arall o wleidyddiaeth ar gyfer y gwledydd sy’n rhan ohoni. Mae’r gwledydd hyn yn rhannu arian cyffredin, yr Ewro.
Ar raddfa ryngwladol, mae’r DU yn ffurfio rhan o nifer o gyrff gwleidyddol rhyngwladol fel NATO a’r Cenhedloedd Unedig.
NATO yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd, cynghrair neu grŵp o wledydd sy’n cytuno i amddiffyn ei gilydd pe bai rhywun yn ymosod arnynt. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gorff rhyngwladol sy’n gweithio i sicrhau cydweithrediad rhwng gwledydd ynghylch deddfau a hawliau dynol ac mae’n gweithio i gyflawni heddwch yn y byd.
Dylai’r adran hon roi dealltwriaeth dda i chi o wleidyddiaeth yng Nghymru, y DU a gweddill y byd.