Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Fisu ar Gyfer Teithio
Yn yr Adran Hon
Fisâu ar gyfer Teithio
Dogfen swyddogol yw fisa sy’n dy alluogi i deithio i wledydd penodol. Bydd unrhyw fisâu byddi di’n eu derbyn yn cael eu hatodi at un o’r tudalennau yn dy basport.
- Os byddi di’n teithio yn yr Undeb Ewropeaidd a thithau’n Ddinesydd Prydeinig, ni fydd angen fisa arnat ti. Ond i fynd i lawer o wledydd eraill mae’n siŵr y bydd angen fisa arnat ti
- Mae’n anoddach cael fisa i fynd i rai gwledydd nag i rai eraill. Efallai y bydd yn rhaid i ti dalu hefyd am rai fisâu
- Rhaid i ti sicrhau bod gennyt ti’r math cywir o fisa ar gyfer y daith yr ydwyt yn mynd arni. Bydd y rhan fwyaf o fisâu twristiaid yn para am dri mis, ond os ydwyt eisiau gweithio tra'r ydwyt i ffwrdd, bydd angen gwahanol fath o fisa arnat ti
- Bydd yn rhaid i ti gael fisa cyn i ti deithio, felly gwna'n siŵr dy fod di’n caniatáu digon o amser cyn i ti fynd i ffwrdd i gael un. Mae yna gwmnïau sy’n gallu trefnu fisa ar dy gyfer, ond gall hyn fod yn gostus
- Gall gwirio beth sydd ei angen i ymweld â phob gwlad gyda chyfeirlyfr y Swyddfa Dramor a Chymanwlad