Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd



Crefydd

Diffinnir crefydd fel y gred mewn ac addoli duw neu dduwiau, neu system o gred a chyd-addoli. Mae llawer o wahanol fathau o grefydd ar draws y byd ac mae’r crefyddau mwyaf yn cynnwys Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth, Bwdïaeth, Hindŵaeth a Sikhiaeth.

Mae Prydain yn gymdeithas aml-ffydd sy’n golygu bod gan bawb yr hawl i ryddid crefyddol ac y gallant ymarfer unrhyw grefydd o’u dewis. Mae cymdeithas Prydain yn cael ei hadnabod fel un sy’n hynod o oddefgar o gredoau a ffydd pobl eraill ac ymarferir y rhan fwyaf o grefyddau’r byd yma.

Ar draws Prydain gall ddod o hyd i bob math o gymunedau o’r grefydd Gristnogol, Hindŵaidd, Iddewig, Mwslimaidd a Sikhaidd a chymunedau llai hefyd fel Bahá’í, Bwdhyddion, Jainyddion a Zoroastrianyddion yn ogystal â dilynwyr mudiadau crefyddol newydd.

Mae’r adran hon yn ymdrin â holl brif grefyddau’r byd, ble y lleolir y crefyddau hyn a’u credoau a’u harferion a hefyd yn cynnwys rhai systemau cred amgen.

Mae’n bwysig deall a pharchu gwahanol systemau cred, yn arbennig os wyt ti'n teithio i wledydd tramor a rhai sy’n wahanol i’r rhai rwyt ti wedi eu profi o’r blaen.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50