Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Arian



Arian

Mae'n bwysig iawn i drefnu dy arian cyn i ti fynd i ffwrdd. Bydd cael mynediad at ddigon o arian yn sicrhau gallu di wneud y pethau rwyt ti am ar dy deithiau.

  • Gwna'n siŵr dy fod yn ymwybodol o'r gwahanol arian cyfred mewn gwledydd eraill, er enghraifft, mae llawer o wledydd yn Ewrop yn awr yn defnyddio'r Ewro
  • Cer i weld dy swyddfa bost lleol, banc neu asiant teithio i gyfnewid dy arian cyn i ti adael. Mae rhai cyfleusterau yn cynnig cyfraddau yn well nag eraill, felly siopa o gwmpas i wneud yn siŵr dy fod yn cael y gorau am dy arian

Faint o arian fydd angen i mi eu cymryd?

  • Cyn i ti adael, gwna'n siŵr dy fod wedi cynllunio'n ofalus ar gyfer yr hyn y gallet ti wario tra byddi di i ffwrdd. Mae'n syniad da i weithio allan cyllideb a fydd yn dy helpu i sicrhau nad wyt yn rhedeg allan o arian
  • Bydd faint o arian y byddi di'n cymryd gyda thi yn dibynnu ar faint y gallet ti fforddio, pa mor hir yr wyt yn mynd i ffwrdd, beth fyddi di'n hoffi ei wneud tra ar dy deithiau a lle yr ydwyt yn ymweld â hi
  • Mae rhai gwledydd yn fwy drud nag eraill, felly mae'n well i ti ymchwilio i faint bydd llety, bwyd a gweithgareddau yn costio cyn i ti fynd i ffwrdd
  • Peidia gadael pethau tan y funud olaf i gynllunio dy drefniadau arian - gwna'n siŵr dy fod wedi cyllidebu yn ofalus a bod gennyt yr arian sydd ei hangen arnat cyn i ti adael
  • Cofia adael digon o arian i deithio yn ôl adref!

Mathau o arian

  • Mae llawer o bobl yn cymryd cymysgedd o arian parod, sieciau teithio, cardiau credyd a debyd pan fyddant yn mynd dramor
  • Mae sieciau deithio yn ffordd ddiogel o gymryd arian gyda thi gan fod angen adnabyddiaeth a dy lofnod er mwyn i'w gyfnewid am arian. Bydd tal yn cael ei godi i ti gyfnewid dy siec teithio am arian parod felly gallant fod yn ffordd ddrud o gael gafael ar dy arian
  • Gallet ti ddefnyddio dy gerdyn credyd a debyd i godi arian a thalu am eitemau dramor ond mae'n bosibl y bydd tal yn cael ei godi gan dy fanc ar gyfer hyn
  • Gwna'n siŵr dy fod yn cadw dy arian, sieciau teithio, cardiau credyd a debyd mewn lle diogel neu gyda thi bob amser

Disgownt i Fyfyrwyr

  • Os oes gennyt ti Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol gallai fod gennyt ti'r hawl i gael gostyngiadau ar deithio, nwyddau a gwasanaethau. Gallet ti gael cerdyn o'r Cydffederasiwn Teithio Myfyrwyr Rhyngwladol (International Student Travel Confederation)
  • Gallet ti hefyd ymuno â Chymdeithas yr Hostelau Ieuenctid sy'n rhoi hawl i ti arbed arian ar lety hostel

Gweithio Dramor

  • Os ydwyt yn rhedeg allan o arian neu'n brin o arian, efallai y bydd modd i ti weithio tra byddi di dramor i ennill rhywfaint o arian. Cer i'r adran Gweithio [link to 3c WORKING-in Welsh] am fwy o wybodaeth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50