Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Cadw Mewn Cysylltiad
Yn yr Adran Hon
Cadw Mewn Cysylltiad
Gallet ti ddefnyddio dy ffôn symudol pan wyt ti dramor, hola dy ddarparwr am fanylion faint fydd yn ei gostio cyn i ti fynd. Gallai fod yn werth cymryd contract ar wahân i'w wneud yn fwy darbodus.
- Gall fod yn ddrud defnyddio dy ffôn symudol dramor. Mae gan lawer o wledydd gardiau ffôn y gallet ti brynu o siopau a swyddfeydd post a allai yn aml fod yn ffordd ratach o wneud galwadau ffôn
- Mae rhai gwledydd fel yr UDA, yn defnyddio amledd gwahanol i ffonau symudol ym Mhrydain felly efallai na fydd dy ffôn yn gweithio dramor
- Mae’n syniad da peidio â dibynnu ar dy ffôn symudol gan na fydd gan bob ardal gyrhaeddiad rhwydwaith. Gallet ti hefyd golli dy ffôn ar dy daith
- Pan ydwyt yn ffonio Prydain o wlad arall, bydd yn rhaid i ti newid y 0 ar ddechrau’r rhif i +44
- Mae e-bost yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, a gall fod yn rhad iawn. Mae gan lawer o drefi a dinasoedd we-gaffis lle gallet ti dalu am fynediad i’r we fesul awr
- Edrycha ar y dudalen Cyfathrebu yn yr adran Byw Dramor [link to 3d5 Communications-in Welsh] am ragor o gyngor