Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Cynllunio ac Archebu
Yn yr Adran Hon
Cynllunio ac Archebu
P’un a'i yr ydwyt eisiau teithio am benwythnos neu am flwyddyn, mynd i ochr arall y byd neu i ochr arall Cymru, bydd cynllunio’n gywir yn dy helpu di i fwynhau dy daith yn fwy.
Os ydwyt yn cynllunio gwyliau yn dda, byddi di’n gallu gweld yr holl bethau rwyt ti eisiau eu gweld yn yr amser sydd gennyt ti, heb wario mwy o arian na fedri di ei fforddio, gobeithio!
Cynllunio
- Pan ydwyt yn cynllunio lle'r ydwyt eisiau mynd iddo ar dy wyliau, mae yna lawer o bethau ymarferol sy’n rhaid i ti eu hystyried, megis fisâu neu frechiadau arbennig sydd angen i ti gael - edrycha ar yr adrannau eraill yng Ngwyliau a Theithio am ragor o wybodaeth
- Gall rhai gwledydd fod yn beryglus ac mae’n bwysig dy fod di’n sicrhau bod y wlad yr ydwyt am fynd iddi yn ddiogel. Gall gwirio hyn â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, sydd â rhestr yn dangos pa mor ddiogel yw pob gwlad i deithio ynddi: Gov.uk
- Bydd pwy yr ydwyt yn teithio gyda nhw yn cael effaith fawr ar dy wyliau. Os ydwyt yn teithio gyda ffrindiau, gwna'n siŵr eich bod eisiau’r un pethau o’ch taith
- Dylet ti hefyd ystyried yr adeg o’r flwyddyn yr ydwyt eisiau mynd i ffwrdd. Hyd yn oed os ydi hi’n haf ym Mhrydain, gall fod yn dymor corwynt neu fonsŵn mewn rhai gwledydd ar ochr arall y byd
- Mae yna lawer o lyfrau a chanllawiau teithio gallu di eu defnyddio i dy helpu i gynllunio lle rwyt ti eisiau mynd iddo ar dy wyliau, a beth fydd angen i ti ei wneud cyn i ti fynd yno. Gallan nhw dy helpu i ddewis y mannau yr ydwyt eisiau eu gweld fwyaf, ac awgrymu teithlen ar gyfer dy daith
- Nid yw gwyliau’n golygu mynd dramor bob tro. Mae Cymru yn lleoliad poblogaidd i dwristiaid, ac mae pobl yn dod o bedwar ban byd i ymweld â thirlun hardd ein gwlad ac i gael blas o groeso enwog Cymru
Archebu
- Mae yna sawl ffordd o archebu gwyliau. Gallet ti fynd ar y we, defnyddio’r ffôn neu fynd i swyddfa deithio
- Gall archebu ar y we fod yn ffordd ddefnyddiol o arbed arian, ond paid â chymryd yn ganiataol bob amser mai dyma’r ffordd rataf. Mae trefnwyr teithiau yn arbenigwyr a gallan nhw ddod o hyd i wyliau i ti sy’n rhoi mwy o werth dy arian i ti yn aml nag un yr wyt wedi dod o hyd iddo dy hun
- Efallai nad ydwyt eisiau archebu rhywle i aros bob nos cyn i ti fynd i ffwrdd, ac am fod yn deithiwr mwy annibynnol. Mewn rhai llefydd, gallet ti gyrraedd a chael ystafell yn syth, neu archebu gyda’r gwasanaeth croeso lleol a fydd yn gallu awgrymu gwesty fydd yn gweddu ti. Fodd bynnag, mae bob amser yn syniad da gwybod lle gallet ti fynd iddo i archebu ystafell fel nad ydwyt yn cael dy hun heb unman i aros!