Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Pasportau
Yn yr Adran Hon
Pasportau
Os wyt ti eisiau teithio dramor bydd angen i ti gael pasport. Mae’n rhaid i bawb, gan gynnwys babanod, gael eu pasport eu hunain os ydyn nhw’n teithio dramor.
- I wneud cais am basport, gallet ti gael ffurflen o dy swyddfa bost lleol a gwneud cais trwy’r post. Gallet ti hefyd wneud cais ar-lein trwy wefan y Swyddfa Basportau
- O’r amser y byddan nhw’n derbyn dy gais, bydd y swyddfa basportau’n ceisio anfon dy basport newydd atat ti cyn pen tair wythnos, ond ar adegau prysur, fel gwyliau’r haf, gall gymryd mwy o amser. Felly mae’n bwysig dy fod yn sicrhau bod dy basport yn gyfredol gyda digon o amser cyn i ti fynd ar dy wyliau
- Mewn achosion brys (os oes angen i ti deithio mewn llai na phythefnos) gallu di fynd i swyddfa basportau lleol a chiwio i gael pasport ar yr un diwrnod. Mae yna swyddfa basportau yng Nghasnewydd, de Cymru, ac un yn Lerpwl hefyd
- Bydd rhai gwledydd yn gwrthod dy adael di i mewn os yw dy basport yn dod i ben cyn pen chwe mis o’r dyddiad yr ydwyt yn teithio, neu os oes gennyt ti ddim ond ychydig o dudalennau gwag ynddo ar gyfer fisâu. Dyle ti wirio cyn i ti fynd i ffwrdd ai dyma yw’r sefyllfa yn achos y wlad yr wyt ti'n teithio iddi
- Mae dy basport yn ddogfen bwysig iawn. Os byddi di’n cael damwain neu os bydd rhywbeth yn digwydd i ti tra yr ydwyt ar dy wyliau, bydd angen pasport arnat ti i gael cymorth gan ysbyty neu’r heddlu
- Cadwa dy basport mewn lle diogel neu gyda thi bob amser tra'r ydwyt i ffwrdd
- Os yw dy basport yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn dramor, dylet ti gysylltu â’r Llysgenhadaeth, Uchel Gomisiwn neu Gonswliaeth Prydain agosaf ar unwaith am gyngor
- Mae’n syniad da gwneud llungopi o’r tudalennau lluniau yn dy basport a’i gadw mewn lle diogel ar wahân i dy basport pan ydwyt yn mynd ar wyliau