Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Yswiriant
Yn yr Adran Hon
Yswiriant
Os wyt ti’n mynd ar wyliau mae’n hanfodol dy fod di’n cael yswiriant teithio i sicrhau na fydd yn rhaid iti dalu am driniaeth feddygol petai rhywbeth yn digwydd iti tra rwyt ti i ffwrdd.
- Os nad oes gen ti yswiriant a ti'n cael damwain yna, yn ddibynnol ar ba wlad ydyw, gallai'r driniaeth ysbyty gostio unrhyw beth rhwng ychydig gannoedd i filiynau
- Sicrha dy fod di'n gwneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewrop i sicrhau dy fod di'n cael triniaeth am unrhyw ddamwain neu salwch os yn teithio o fewn Undeb Ewrop. Gall un ai wneud cais yn y swyddfa bost lleol neu ar-lein
- Mae'n hawdd iawn cael yswiriant teithio, unai ar y we, yn y Swyddfa Bost neu mewn sawl siop a banciau ar y stryd fawr. Yn aml nid yw'n costio llawer a gall ei brynu am gyn lleied â £10 am siwrne sengl)
- Edrycha ar brint mân y ddogfen yswiriant i sicrhau bod gan y cwmni'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw amdanat ti, ac i wirio beth yn union mae’r yswiriant yn ei gynnwys. Er enghraifft, rhaid iti wneud yn siŵr dy fod di’n dweud wrth dy yswiriwr am unrhyw gyflyrau meddygol blaenorol neu salwch a allai effeithio ar unrhyw driniaeth y gallet ti ei derbyn
- Cadwa rif ffôn y cwmni yswiriant wrth law bob amser er mwyn iti allu cysylltu â nhw yn gyflym petai argyfwng
Beth ddylai'r polisi ei gynnwys
Dylai polisi sylfaenol gynnwys y canlynol:
- Canslad - rhag ofn bod rhaid i ti ganslo neu dorri'r gwyliau'n fyr
- Gohiriadau - fe ddylet ti dderbyn iawndal os yw'r awyren wedi cael ei ohirio am dros 12 awr
- Bagiau ac eiddo - fe ddylet ti gael yswiriant o hyd at £1500 rhag ofn i'r bag cael ei golli, dwyn neu ddifrodi
- Atebolrwydd personol (er enghraifft os wyt ti'n anafu rhywun, fe ddylai'r yswiriant fod am leiafrif o £1 miliwn os wyt ti'n ymweld ag Ewrop a £2 miliwn am weddill y byd)
- Cymorth Argyfwng - mae sawl cwmni yswiriant yn cynnig llinellau cymorth argyfwng 24 awr
- Yswiriant Meddygol
Gwna'n siŵr bod yr yswiriant yn gyfredol ar gyfer yr holl amser rwyt ti ffwrdd, a’i fod yn cynnwys unrhyw weithgareddau y byddi di’n eu gwneud ar y daith. Nid yw polisïau cyffredinol yn caniatáu rhai gweithgareddau fel jet sgïo.