Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Gwyliau ar Gyfer Pobl Anabl
Yn yr Adran Hon
Gwyliau ar gyfer Pobl Anabl
Os oes gen ti anabledd nid oes unrhyw reswm pam na allet ti wneud beth bynnag rwyt ti eisiau ei wneud ar dy wyliau.
- Mae cynllunio yn hanfodol ar gyfer unrhyw wyliau, ond os oes gen ti anabledd mae’n bwysicach fyth sicrhau dy fod di’n gallu gwneud yn fawr o dy amser i ffwrdd
- Er nad yw pethau’n berffaith o bell ffordd eto, mae yna lawer o ddarparwyr llety bellach yn ystyried anghenion eu hymwelwyr sydd ag anabledd
- Mae llyfrau teithio yn ddefnyddiol, ond yn aml nid ydyn nhw’n rhoi llawer o syniad o sut le fydd ardal ar gyfer ymwelwyr ag anabledd wedi iddyn nhw gyrraedd
- Yn aml, y bobl gorau i siarad â nhw ynglŷn â mynd ar wyliau yw pobl eraill sydd ag anableddau. Efallai y gallan nhw argymell gwesty neu ddinas arbennig y maen nhw wedi ymweld â nhw yn y gorffennol sydd â chyfleusterau da
- Mae bob amser yn syniad da gadael i’r cwmni rwyt ti’n teithio gyda nhw wybod am unrhyw ofynion arbennig sydd gen ti, er mwyn iddyn nhw wneud trefniadau ar dy gyfer neu addasu'r cyfleusterau
- Mae rhai cwmnïau’n arbenigo mewn gwyliau i bobl sydd ag anableddau, ac mae mynd gyda chwmni fel hyn yn gallu bod yn ffordd wych o deithio yn ddidrafferth