Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gwyliau a Theithio » Iechyd a Diogelwch



Iechyd a Diogelwch

Mewn rhai gwledydd, efallai y byddi di’n ei chael hi’n anodd neu’n ddrud i gael triniaeth feddygol, felly mae’n bwysig iawn i amddiffyn dy hun rhag peryglon iechyd yn y wlad rwyt ti’n mynd iddi.

  • Cyn i ti adael, gwna'n siŵr bod gennyt ti ddigon o yswiriant teithio i dalu am driniaeth os byddi di’n cael dy anafu, gall hyn fod yn rhywbeth i ti gymryd allan gydag asiant teithio neu gwmni ar wahân
  • Gwiria gyda chyfeiriadur y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad am y wlad yr ydwyt yn teithio iddo: Gov.uk
  • Os ydwyt yn cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwna'n siŵr bod gennyt ti gyflenwad digonol i fynd gyda thi a gofynna a fedri di gael y feddyginiaeth dramor
  • Gwna gais am Gerdyn Iechyd Ewropeaidd o dy swyddfa bost. Bydd hyn yn sicrhau y byddi di’n gallu cael triniaeth os byddi di mewn damwain neu os byddi di’n sâl tra'r ydwyt i i ffwrdd. Gallet ti naill ai wneud cais yn dy swyddfa bost lleol neu ar-lein
  • Efallai y bydd angen i ti gael brechiadau i dy amddiffyn di rhag afiechydon mewn gwledydd eraill. Cysyllta â dy feddyg am gyngor ar y pigiadau y bydd eu hangen arnat ti

Dy Ddiogelwch

  • Mae’n bwysig ystyried dy ddiogelwch pan ydwyt mewn gwlad dramor. Cymera cyngor a bydda'n synhwyrus tra'r ydwyt i ffwrdd. Defnyddia dy synnwyr cyffredin a phaid â chymryd risgiau os yw’n golygu rhoi dy hunan mewn perygl
  • Gwna cymaint o ymchwil â phosib cyn i ti fynd. Pryna arweinlyfr da i’r wlad, ymchwilia i’w chyfreithiau a’i harferion a siarada â phobl eraill sydd wedi aros yn y wlad honno
  • Gwna'n siŵr dy fod di’n cadw dy basport, dy ddogfennau teithio ac unrhyw ffurflenni pwysig mewn lle diogel
  • Un o’r peryglon iechyd mwyaf i deithwyr yw damweiniau ffordd yn hytrach nag afiechydon prin. Mae gan rai gwledydd enw dychrynllyd. Mae’r Gymdeithas Teithio’n Ddiogel ar y Ffordd Ryngwladol (ASIRT) yn cynhyrchu Adroddiadau cynhwysfawr ar Deithio ar y Ffordd sy’n cynnwys dros 130 o wledydd: Asirt
  • Bydda'n ofalus beth yr wyt yn ei fwyta a’i yfed, yn enwedig mewn gwledydd poeth. Os ydwyt mewn gwlad sydd â dŵr tap sy’n anaddas i’w yfed, pryna ddŵr potel
  • Gweler rhan Iechyd a Diogelwch yn yr adran Byw Tramor am ragor o wybodaeth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50