Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Diwylliant
Yn yr Adran Hon
Diwylliant
Mae diwylliant yn ymadrodd eang iawn, ac nid yw’n hawdd ei ddiffinio oherwydd gall olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gall gyfeirio at bopeth sy’n ffurfio hunaniaeth gwlad neu ardal a drosglwyddwyd i ni gan genhedlaeth flaenorol. Mae’n newid yn barhaus a gall cymdeithasau gael gwahanol ddiwylliannau mewn gwahanol gyfnodau.
Gall gynhyrchion ein diwylliant gynnwys llawer o elfennau gwahanol gan gynnwys cerdd, celf, ffasiwn, theatr, pensaernïaeth, llenyddiaeth, iaith a choginio.
Mae gan Gymru ddiwylliant cyfoethog iawn. Mae gennym ein hiaith a’n traddodiadau o farddoniaeth a chân a fynegir drwy’r Eisteddfod. Ceir gwisg genedlaethol Gymreig, anthem genedlaethol Gymreig a llawer o adeiladau Cymreig fel cestyll hynafol.
Mae’r holl agweddau hyn yn ffurfio ein treftadaeth, ac mae treftadaeth gwlad yn rhan bwysig o hunaniaeth bobl.