Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Byw Tramor
Yn yr Adran Hon
Byw Tramor
Mae byw dramor yn brofiad sy’n newid bywydau, cyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd, addasu i ddiwylliant newydd ac efallai dysgu iaith newydd.
Mae cynllunio yn hanfodol os ydwyt yn meddwl am symud dramor oherwydd mae pethau pwysig i’w drefnu cyn i ti fynd, fel dod o hyd i waith, rhywle i fyw, agor cyfrif banc ac efallai y bydd arnat angen caniatâd a fisa i fyw a gweithio mewn gwlad wahanol. Yn dibynnu ar ba ran o'r byd rwyt ti'n bwriadu teithio, efallai y bydd angen cwrs o frechiadau cyn i ti fynd.
Ceisia wneud cymaint o ymchwil â phosibl ar y wlad y byddi di'n byw ynddi. Ceisia dysgu am y deddfau a’r rheoliadau lleol, arferion lleol a gwahaniaethau diwylliannol.
Bydd yr adran hon yn mynd drwy’r llu o bethau i’w hystyried cyn i ti fynd i fyw dramor fel arian, sut i gadw mewn cysylltiad â’th deulu a’r ffrindiau yr wyt yn eu gadael ar ôl, sut i gadw’n ddiogel a sut i ddod o hyd i lety.
1 Comment – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 30 mis yn ôl - 11th April 2014 - 09:47am
LIVING ABROUD WOULD BE EPIC