Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau Astudio » Gwaith Cartref
Yn yr Adran Hon
Gwaith Cartref
Gwaith cartref ydy unrhyw fath o ymarfer astudio byddi di'n ei wneud yn amser ti dy hun. Mae'n cael ei roi i ti gan athrawon fel rhan o'r cwrs rwyt ti'n ei astudio, ac mewn gwirionedd, mae wedi'i gynllunio i helpu ti ddysgu. Mae'n canmol beth ti'n ei ddysgu yn y dosbarth ac yn helpu ti i ymarfer defnyddio'r wybodaeth yma.
Ni fydd llawer o bobl yn mwynhau gwneud gwaith cartref, mae'r mwyafrif yn ei weld fel rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yn hytrach na rhywbeth maen nhw eisiau ei wneud.
Bydd peidio gwneud dy waith cartref yn golygu dy fod di'n lleihau dy obeithion o ennill cymhwyster.
- Gall gwaith cartref fod ar sawl ffurf
- Ysgrifennu traethodau
- Cyfrifiadau mathemategol
- Ymchwilio pynciau
- Heriau artistig
- Gwylio rhaglenni teledu addysgol
- Cwblhau gweithgareddau rhyngweithiol ar dy gyfrifiadur gartref
Faint o waith cartref ddylet ti ei wneud?
Nid oes rheolau pendant am hyn, ond fel canllaw bras, gallet ddisgwyl treulio'r amser canlynol yn gwneud gwaith cartref bob nos:
- Blynyddoedd 7 ac 8 (11-13 oed) – 45 – 90 munud
- Blwyddyn 9 (13-14 oed) – 1 – 2 awr
- Blynyddoedd 10 ac 11 (14-16 oed) – 1.5 – 2.5 awr
Gwneud dy waith cartref
- Darganfod rhywle tawel i weithio heb unrhyw ymyriadau.
- Mae yna farn gymysg bod gwrando ar gerddoriaeth yn gallu helpu ti i ganolbwyntio. Os yw'n gweithio i ti, cadwa'r gerddoriaeth yn isel ac yn y cefndir fel nad yw'n tynnu sylw neu yn dy demtio i ymuno yn y canu.
- Cadwa ddyddiadur gwaith cartref – fel bod gen ti nodyn o beth sydd angen i ti wneud a pryd mae'n rhaid ei gyflwyno.
- Gwna'n sicr dy fod yn cymryd seibiannau rheolaidd os fyddi di'n astudio am unrhyw hyd o amser.
- Mae cyflwyniad yn bwysig – ceisia ysgrifennu'n glir ac yn daclus.
- Os wyt ti'n ei chael yn anodd trefnu dy amser er mwyn gwneud dy waith cartref, efallai bydd chwilio am leoedd i ffwrdd o'r cartref yn helpu. Mae rhai llyfrgelloedd mewn trefi mwy yn cynnal clybiau gwaith cartref. Mae gwneud dy waith cartref mewn llyfrgell yn helpu i osgoi'r ymyriadau a all godi gartref, a bydd hefyd yn dy annog i gymryd diddordeb yn y llyfrgell a'r hyn y gall ei gynnig.
- Paid byth cael dy demtio i gopïo pethau gair am air oddi ar y we neu o lyfrau. Bydd yn amlwg nad dy waith di ydyw, felly ti'n sicr o gael dy ddal. Gallai olygu dy fod di'n cael marc o sero am dy waith. Ydy hyn werth y drafferth?
Problemau gyda gwaith cartref
- Os ti ddim yn deall beth mae'n gofyn i ti wneud yna GOFYNNA i dy athro. Nid oes cywilydd mewn gofyn i dy athro egluro rhywbeth i ti. Bydda'n well ganddyn nhw i ti wneud hyn na pheidio gwneud dy waith cartref neu wastraffu amser yn ei wneud yn anghywir.
- Mae hefyd yn bwysig siarad gyda dy athrawon os wyt ti'n teimlo dy fod yn cael gormod o waith cartref neu ddim digon o amser i'w gwblhau
- Os oes rheswm dilys pam na fedri di wneud dy waith cartref erbyn y diwrnod cywir, yna mae'n debyg bydd dy athro yn gadael i ti ei gyflwyno erbyn dyddiad hwyrach ond, os yw'n bosib, gofynna iddyn nhw cyn y dyddiad cyflwyno.
- Er y dylet ti bob amser geisio gwneud dy waith cartref dy hun, os yw'r pwnc yn un anodd efallai byddai'n helpu trafod y peth gyda dy rieni neu ffrindiau gyntaf