Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau Astudio » Adolygu



Adolygu

Mae adolygu yn golygu edrych yn ôl trwy'r gwaith ti wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn i wneud yn sicr dy fod yn deall ac yn cofio pethau cyn sefyll arholiad.

Rwyt ti wedi clywed hyn o'r blaen, ond mae ymdrechion adolygu yn bwysig wrth baratoi ar gyfer arholiadau a byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth i dy radd derfynol. Mae'n hanfodol paratoi a rhoi'r cyfle gorau i ti dy hun o basio dy arholiadau.

Awgrymiadau adolygu

Mae'n arferol i deimlo'n amharod i adolygu pan allet ti fod yn gwneud rhywbeth mwy diddorol, ond mae yna bethau gallet ti ei wneud i wneud adolygu ychydig bach yn haws:

  • Dod o hyd i rywle tawel i weithio heb unrhyw ymyriadau
  • Os oes gen ti'r lle, cadwa dy holl lyfrau a gwybodaeth mewn un lle fel dy fod yn gallu dod o hyd iddynt yn hawdd
  • Mae yna farn gymysg bod gwrando ar gerddoriaeth yn gallu helpu ti i ganolbwyntio. Os yw'n gweithio i ti, cadwa'r gerddoriaeth yn isel ac yn y cefndir, fel nad yw'n tynnu dy sylw ac fel nad wyt ti'n cael dy demtio i ymuno yn y canu
  • Ceisia gynllunio pethau'n ofalus i wneud yn sicr nad wyt ti'n gadael pethau tan y funud olaf
  • Llunia amserlen adolygu
  • Meddylia am y ffordd orau o adolygu i ti. Wyt ti'n well yn adolygu ar ben dy hun neu gyda ffrind. Ydi'n well gen ti wneud llawer o sesiynau adolygu byr ynteu sesiynau hirach?
  • Rhanna'r gwaith yn ddarnau yn hytrach na cheisio gwasgu popeth i mewn y noson cyn yr arholiad
  • Gwna'n sicr dy fod yn cymryd seibiannau rheolaidd
  • Rho wobrau bach i ti dy hun – fel adolygu am 2 awr yna gwneud rhywbeth ti'n mwynhau cyn mynd yn ôl ati
  • Gwna nodiadau bras ac ymarfer ailysgrifennu'r hyn rwyt ti wedi'i ddysgu yng ngeiriau ti dy hun. Canolbwyntia ar ddeall pethau yn hytrach na cheisio dysgu nhw fel parot
  • Mae'n syniad da ysgrifennu nodiadau atgoffa i ti dy hun, gwneud nodiadau ac amlygu ffeithiau pwysig pan fyddi di'n adolygu
  • Ceisia osod dy nodiadau yn rhywle fedri di eu gweld nhw. Mae'r oergell yn le da, neu yn dy ystafell wely neu hyd yn oed yn yr ystafell ymolchi! Y mwyaf byddi di'n edrych arnyn nhw, y mwyaf tebygol wyt ti o gofio'r wybodaeth
  • Ysgrifenna grynodeb o wahanol bynciau ar gardiau neu ar ddarn o bapur A4
  • Gallet ti hefyd roi cynnig ar recordio gwybodaeth a'i chwarae yn ôl i ti dy hun – adegau da i wneud hyn ydy pan wyt ti yn y gwely ac yn barod i fynd i gysgu neu tra ti'n teithio
  • Os oes gen ti rywun sydd yn barod i helpu, fel ffrind neu aelod o'r teulu, rho restr o bwyntiau allweddol neu themâu'r pwnc iddynt a gofyn iddynt i osod cwestiynau i ti. Bydd hyn yn helpu ti i ddod a'r wybodaeth rwyt ti wedi'i ddysgu at ei gilydd a meddwl sut i lunio atebion yn yr arholiad.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50