Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Entrepreneuriaid » Sut i gychwyn



Sut i Gychwyn

Dim ond y cychwyn ydy cael syniad am fusnes neu fenter, dyna'r rhan hawsaf ac mae llawer o waith o dy flaen i'w droi i mewn i realiti.

Bydd angen i ti cynyddu ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau hanfodol i redeg busnes neu fenter. Bydd angen i ti fedru deall y derminoleg sydd yn cael ei ddefnyddio, y math o gefnogaeth sydd ar gael i ti ac i reoli dy adnoddau yn effeithiol.

Bydd angen i ti hefyd wneud cynllun busnes sydd yn ddogfen ffurfiol fydd yn helpu ti i wneud penderfyniadau a gweithio allan y manylion bach o beth ti'n bwriadu gwneud. Bydd unrhyw grant neu fenthyciad ti'n gwneud cais amdano i gychwyn dy fusnes neu fenter yn gofyn am gynllun busnes wedi'i ddatblygu'n llawn.

Fel canllaw, dylai dy gynllun busnes gynnwys:

  • Beth ti'n bwriadu gwneud
  • Pam bod yna angen am beth ti'n bwriadu gwneud
  • I bwy mae dy fusnes neu fenter – pwy ydy dy farchnad di?
  • Pa adnoddau wyt ti angen i gychwyn – cyllid, offer ayb
  • Manylion beth fydd costau dy fusnes dros amser
  • Manylion pa incwm ti'n meddwl bydd dy fusnes yn cynhyrchu

Gwna'n sicr dy fod di'n ymchwilio'r farchnad ac yn siarad gyda'r arbenigwyr am gael cynllun busnes at ei gilydd.

Mae digon o lefydd i bobl ifanc sydd eisiau cychwyn busnes eu hunain fynd am help a chefnogaeth, gan gynnwys ffynonellau cyllid fel grantiau a benthyciadau. Gall dy fanc lleol hefyd roi cyngor am ddim i ti.

Os wyt ti'n ddi-waith neu'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos a rhwng 18 a 30 oed mae yna Raglen Menter yn cael ei gynnig gan Ymddiriedolaeth y Tywysog i ddarparu hyfforddiant i ti ac i helpu ti i brofi dy syniad busnes.

Ymddiriedolaeth y Tywysog - Rhaglen Fenter

Mae Llywodraeth Cymru efo gwefan eang yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd yn dymuno cychwyn busnes neu fenter eu hunain. Mae'r wefan hefyd yn manylu'r mathau o gefnogaeth gyllidol sydd ar gael neu gall wneud cais amdano ar business.wales.gov.uk

Related Media

Useful Links

  • TheSite - Discrimination at Work
  • Starting Work - Citizens Advice
  • DirectGov - Employment
  • TheSite.org - Study information & Tips
  • TheSite - Workers Rights
§


Gyrfaoedd

Mae'r mwyafrif o bobl efo syniadau am beth maen nhw eisiau bod yn y dyfodol, ond wyt ti'n gwybod sut i gael dy swydd ddelfrydol ac os bydda hwn yn siwtio ti?

Mae'n hollol naturiol i deimlo'n ansicr am ba yrfa fydda ti wir yn hoffi, yn aml dyw'r swydd ti'n cael i gychwyn ddim yn yrfa ti'n parhau gydag ef. Gallai gymryd amser i ddod o hyd i dy alwedigaeth ac efallai byddi di'n newid dy yrfa sawl gwaith yn dy fywyd.

Pan yn yr ysgol neu goleg mae gen ti'r hawl i siarad dros dy syniadau gyda Chynghorydd Gyrfa o Gyrfa Cymru. Gallan nhw helpu ti i edrych ar dy syniadau gyrfa a'r ffordd orau o'u cyflawni.

Bydd cyfle i ti weld Cynghorydd Gyrfa yn ystod trafodaethau yn ymwneud â gyrfaoedd yn yr ystafell ddosbarth a hefyd yn ystod Cyfweliad Gyrfaoedd unigol. Fe ddylet ti gael cyfweliad Gyrfaoedd yn awtomatig yn ystod Blwyddyn 9 ac 11 ond gallet ti ofyn i gael gweld Cynghorydd Gyrfa ar adegau eraill os oes angen. Mae Cynghorwyr Gyrfa hefyd ar gael i helpu ti ar ôl gadael ysgol neu goleg a drwy gydol dy fywyd fel oedolyn.

Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn rhad ac am ddim i bawb sy'n byw yng Nghymru.

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50