Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Entrepreneuriaid » Hunan Gyflogaeth
Yn yr Adran Hon
Hunan Gyflogaeth
Mae rhai pobl yn dewis bod yn hunan cyflogedig, yn enwedig os ydynt yn dechrau busnes eu hunain neu yn gweithio ar liwt ei hun.
Mae gweithiwr ar liwt ei hun (freelance) yn berson sydd yn gweithio iddyn nhw eu hunain yn gwerthu'r gwaith maent yn gwneud i gyflogwyr heb ymrwymiad gwaith hirdymor. Mae gweithwyr ar liwt eu hunain yn dda i gyflogwyr sydd angen pethau penodol gael eu gwneud ar gyfer prosiect neu waith ond heb weithwyr efo'r sgiliau penodol yna.
Mae rhai pobl yn dewis dod yn hunangyflogedig pan mae ganddynt sgil arbenigol penodol i gynnig e.e. pobl gyda chrefft fel plymwr, trydanwr ayb. Yn aml maent wedi datblygu'r sgiliau drwy hyfforddiant a chyflogaeth gyda chwmni neu sefydliad ac yn gweithio iddyn nhw eu hunain fel y cam nesaf yn eu gyrfa.
Y fantais i weithio ar liwt dy hun a hunangyflogaeth ydy'r rhyddid gallai gynnig i ddewis oriau gwaith dy hun, bod yn feistr arnat ti dy hun ac weithiau yn ennill mwy o arian.
Yr anfantais ydy cael incwm afreolaidd, dim gwyliau gyda thâl na thâl salwch, talu treth ac yswiriant gwladol dy hun a thrafferthion cynllunio o flaen llaw gyda dy arian yn enwedig ar y cychwyn.
Os wyt ti'n meddwl am ddod yn hunangyflogedig neu weithio ar liwt dy hun yna mae Swyddfa Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn i ti ddefnyddio fel canllaw.
- TheSite - Discrimination at Work
- Starting Work - Citizens Advice
- DirectGov - Employment
- TheSite.org - Study information & Tips
- TheSite - Workers Rights
Gyrfaoedd
Mae'r mwyafrif o bobl efo syniadau am beth maen nhw eisiau bod yn y dyfodol, ond wyt ti'n gwybod sut i gael dy swydd ddelfrydol ac os bydda hwn yn siwtio ti?
Mae'n hollol naturiol i deimlo'n ansicr am ba yrfa fydda ti wir yn hoffi, yn aml dyw'r swydd ti'n cael i gychwyn ddim yn yrfa ti'n parhau gydag ef. Gallai gymryd amser i ddod o hyd i dy alwedigaeth ac efallai byddi di'n newid dy yrfa sawl gwaith yn dy fywyd.
Pan yn yr ysgol neu goleg mae gen ti'r hawl i siarad dros dy syniadau gyda Chynghorydd Gyrfa o Gyrfa Cymru. Gallan nhw helpu ti i edrych ar dy syniadau gyrfa a'r ffordd orau o'u cyflawni.
Bydd cyfle i ti weld Cynghorydd Gyrfa yn ystod trafodaethau yn ymwneud â gyrfaoedd yn yr ystafell ddosbarth a hefyd yn ystod Cyfweliad Gyrfaoedd unigol. Fe ddylet ti gael cyfweliad Gyrfaoedd yn awtomatig yn ystod Blwyddyn 9 ac 11 ond gallet ti ofyn i gael gweld Cynghorydd Gyrfa ar adegau eraill os oes angen. Mae Cynghorwyr Gyrfa hefyd ar gael i helpu ti ar ôl gadael ysgol neu goleg a drwy gydol dy fywyd fel oedolyn.
Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn rhad ac am ddim i bawb sy'n byw yng Nghymru.