Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Diweithdra » Cynlluniau Gwaith



Cynlluniau Gwaith

Os wyt ti'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac os oes gen ti gynghorydd personol, efallai gwnaiff awgrymu neu benderfynu y dylet gymryd rhan mewn cynllun gwaith.

Mae yna nifer o gynlluniau:

Y Rhaglen Profiad Gwaith

Byddi’n ymuno â’r rhaglen hon yn wirfoddol ac fe gei di brofiad o amgylchedd gwaith am 2 – 8 wythnos.

  • Mae’n rhaglen i bobl 16 i 24 oed, er gallai'r Ganolfan Byd Gwaith gytuno i'r cynllun hwn i rai dros 25
  • Pan fyddi'n derbyn lle, daw’n orfodol a bydd disgwyl i ti barhau i chwilio am waith tra byddi’n mynychu
  • Os byddi'n methu mynychu neu’n colli dy le, efallai caiff dy lwfans chwilio am waith ei stopio neu ei leihau
  • Y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol

    Dyma gynllun i bobl dros 18 oed y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i ganfod gwaith ac mae'n rhywbeth a benderfynir gan dy gynghorydd personol wrth dy gyfweld.

    • Mae'n gynllun 'gweithio am dy fudd-daliadau' â gweithgaredd gwaith o hyd at 30 awr yr wythnos dros bedair wythnos
    • Yn achos pobl sydd heb brofiad gwaith, gallai hwn fod yn ddefnyddiol iawn i’w helpu i ganfod gwaith ar ôl y cynllun
    • Os byddi'n methu mynychu neu’n colli dy le, efallai caiff dy Gredyd Cynhwysol ei stopio neu ei leihau

    Y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter

    Nod y cynllun hwn yw cynorthwyo pobl i ganfod gwaith neu waith hunangyflogedig trwy gael profiad â chyflogwyr.

    • Mae’n gynllun ‘gwaith am fudd-daliadau’, a bydd dy gynghorydd personol yn penderfynu a ddylet gymryd rhan ynddo
    • Os byddi'n methu mynychu neu’n colli dy le, efallai caiff dy Gredyd Cynhwysol ei stopio neu ei leihau

    Y Rhaglen Waith

    Mae’n rhan o'r Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter. Mae'n orfodol i rai pobl ac yn wirfoddol i eraill, ond pan fyddi’n derbyn lle, daw’n orfodol.

    Mae'r Rhaglen Waith yn cynnig cymhelliad ariannol i sefydliadau ar ran y Ganolfan Byd Gwaith i dy helpu i ganfod gwaith. Os byddi'n methu mynychu neu’n colli dy le, efallai caiff dy Gredyd Cynhwysol ei stopio neu ei leihau.

    Bydd rhaid i ti gymryd rhan yn y Rhaglen Waith os wyt ti'n perthyn i unrhyw un o'r grwpiau canlynol:

    • Rwyt ti rhwng 18 a 24 oed ac wedi hawlio Credyd Cynhwysol/LCG am waith am naw mis
    • Rwyt ti dros 25 oed ac wedi hawlio Credyd Cynhwysol am 12 mis
    • Rwyt ti dan anfantais o ran canfod gwaith, er enghraifft, os oes gennyt anabledd. Mewn rhai achosion mae'n parhau i fod yn ddewis ti os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y cynllun yn ddibynnol ar dy amgylchiadau.
    • Rwyt ti wedi hawlio budd-dal analluogrwydd yn ddiweddar, ar ôl hawlio lwfans chwilio am waith am dri mis
    • Rwyt ti'n hawlio Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm, yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith, ac mae disgwyl i ti fod yn ddigon iach i weithio o fewn 12 mis

    Stopio neu Leihau dy Lwfans Chwilio am Waith

    Pan gaiff dy Gredyd Cynhwysol ei stopio neu ei leihau, gelwir hyn yn 'gosb' a bydd yn para fel arfer am 4, 13, neu 26 wythnos, neu 3 blynedd, yn dibynnu beth ddigwyddodd.

    • Mae cosbau lefel is neu ganolog yn para am 4 neu 13 wythnos os na fyddi’n mynd i gyfweliad, ddim yn darparu gwybodaeth y gofynnir i ti amdano, ddim yn gwneud gweithgareddau i chwilio am waith rwyt wedi cytuno arnynt gyda dy gynghorydd personol, gadael unrhyw un o'r cynlluniau gwaith neu’n peidio cymryd rhan mewn cynllun gweithio am dy fudd-daliadau fel y Rhaglen Waith
    • Fel arfer, rhoddir cosbau lefel canolog am beidio bod ar gael ar gyfer gwaith neu ddim wrthi yn chwilio am waith
    • Mae cosbau lefel uwch yn para am 13 neu 26 wythnos neu hyd at 3 blynedd yn dibynnu beth sydd wedi digwydd, er enghraifft, gadael dy waith yn wirfoddol, gwrthod ceisio am swydd mae'r Canolfan Byd Gwaith wedi’i dangos i ti, gwrthod cymryd rhan yn y cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol

    Os wyt ti'n 16 neu'n 17 oed, mae rheolau arbennig ynghylch pryd gall y Ganolfan Byd Gwaith dy gosbi di.

    Os caiff dy Gredyd Cynhwysol ei stopio oherwydd cosb, efallai byddi’n gallu gwneud cais am daliad Cymorth Dewisol. Benthyciad caledi oedd enw blaenorol y taliad hwn.

    Herio'r gosb

    Os byddi’n meddwl bod y penderfyniad yn annheg a bod gen ti reswm da dros yr hyn a ddigwyddodd, galli herio penderfyniad y Ganolfan Byd Gwaith. Er enghraifft, colli dy le ar gynllun gwaith oherwydd absenoldeb neu orfod ceisio am swydd mewn lle oedd yn rhy bell i ti deithio yno.

    Beth bynnag fydd y gosb neu'r amgylchiadau, os byddi’n dymuno apelio yn erbyn y gosb ar dy Gredyd Cynhwysol, siarada â rhywun yn y Canolfan Cyngor ar Bopeth gyntaf. Gallent dy gynghori ynghylch y camau gorau.

    §

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50