Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Diweithdra » Budd-Daliadau



Budd-daliadau

Os byddi’n cysylltu â swyddfa Canolfan Byd Gwaith i ganfod gwaith a darganfod a elli di hawlio budd-daliadau penodol yn dibynnu ar dy oedran a dy amgylchiadau, gofynnir i ti gael cyfweliad â chynghorydd personol.

Os wyt ti’n chwilio am waith, ond yn ddi-waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, efallai byddi’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol sydd yn cychwyn cymryd lle’r Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) o fis Ebrill 2013.

Dyma’r prif wahaniaethau rhwng Credyd Cynhwysol a LCG:

  • Telid LCG bob bythefnos, a chaiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n fisol, felly bydd angen i ti gyllidebu’n ofalus
  • Telir Credyd Cynhwysol i gyfrif o dy ddewis, felly bydd angen cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd arnat
  • Bydd Credyd Cynhwysol yn un taliad, felly os oes angen cymorth i dalu’r rhent arnat, bydd hyn wedi’i gynnwys ac ni wneir taliad ar wahân i dy landlord. Bydd rhaid i ti dalu dy landlord yn uniongyrchol

Os wyt ti'n 16 neu 17 oed, efallai gelli di gael Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm am gyfnod byr. Bydd hyn yn dibynnu ar dy sefyllfa bersonol, er enghraifft, os nad wyt yn byw gyda dy rieni, os wyt ti'n gyfrifol am blentyn neu pe bai’n anodd iawn i ti fyw heb fudd-daliadau.

I wybod a elli hawlio Credyd Cynhwysol, cysyllta â dy ganolfan gwaith lleol neu cer yno i gyfarfod â chynghorydd.

Gall gymryd amser i brosesu dy gais, felly mae'n syniad da i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted ag y byddi'n ddi-waith i weld a elli di hawlio unrhyw gymorth ariannol. Mae hyn yn bwysig iawn os oes gen ti rent a biliau i’w talu, neu os oes gen ti blant.

Tra byddi’n disgwyl am benderfyniad, gallet wneud cais am daliad Cymorth Dewisol i dy helpu. Taliad caledi oedd enw blaenorol y taliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran Arian.

Gwneud cais newydd neu ail-wneud cais am fudd-dal

  • Gallet ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais am fudd-dal. Ffonia 0800 055 6688
  • Ffôn testun: 0800 023 4888 os wyt ti'n fyddar, yn drwm dy glyw, neu â nam ar y lleferydd
  • Mae galwadau yn rhad ac am ddim o ffôn linell tir. Efallai bydd rhaid talu ffi wrth alw o ffôn symudol, ond fe wnaiff y Ganolfan Byd Gwaith drefnu i dy alw’n ôl os gwnei ofyn iddynt
  • Mae'r llinellau ffôn ar agor o 8.00am i 6.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener
  • Gellir gwneud cais ar-lein hefyd: https://www.dwpe-services.direct.gov.uk/portal/page/portal/jsaol/lp
  • Cytundeb Ceisiwr Gwaith

    Bydd dy gynghorydd personol yn dy helpu i lunio cytundeb ceisiwr gwaith sy’n rhestru'r camau dylet eu cymryd i ganfod gwaith. Bydd hyn yn cynnwys y mathau o swyddi a sawl swydd byddi'n ceisio amdanynt ac ati.

  • Bydd dy gynghorydd yn cyfarfod â thi ar ôl 13 wythnos i fynd trwy'r cytundeb a thrafod dy gynnydd
  • Mae'n bwysig mynd i'r cyfweliad yma oherwydd gallent atal dy lwfans ceisio gwaith neu ei leihau os nad fyddi di’n mynd
  • Efallai bydd dy gynghorydd personol yn dy helpu i ehangu'r gwaith ti'n chwilio amdano, rhoi ti mewn cysylltiad gyda chyflogwyr neu awgrymu cynlluniau penodol dylet ti gymryd rhan ynddynt
  • §

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50