Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg l-16 » Coleg
Yn yr Adran Hon
Coleg
Mae yna ddau fath o goleg, sef chweched dosbarth ac addysg bellach (AB). Mae colegau Chweched Dosbarth yn darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr rhwng 16 ac 19 oed, ac mae colegau AB yn cynnig cyrsiau ar gyfer pobl ifanc ac oedolion.
- Fel rheol, mae colegau’n fwy nag ysgolion, a byddi di’n cael y cyfle i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
- Yn y coleg, bydd disgwyl i ti gymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli dy amser dy hun, ond bydd help a chefnogaeth ar gael o hyd pe bai eu hangen arnat ti
- Gall Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg roi help i ti os oes gen ti broblemau ar dy gwrs, gyda materion personol neu arian
- Fel rheol, gallet ti wisgo dillad anffurfiol, ond gall rhai cyrsiau fynnu dy fod di’n gwisgo dillad penodol, e.e. troswisg neu dracwisg coleg
- Mae colegau’n cynnig ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau AS a Lefel A, a chyfle i ailsefyll TGAU. Fel rheol, mae’r dewis o gyrsiau sy’n ymwneud â gwaith yn fwy nag mewn chweched dosbarth mewn ysgol
Sut fedra i ddod i wybod mwy am Goleg?
- Gallet ymweld â’r coleg ar noson agored neu ddiwrnod agored
- Darllena brosbectws colegau ac edrycha ar eu gwefannau
- Siarada gyda Chynghorydd Gyrfa
- Siarada gyda phobl ti'n adnabod sydd eisoes yn y coleg.
Gallet hefyd ddarganfod llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Gyrfa Cymru: https://www2.careerswales.com/lcdadmin/ELWA/default.asp?page=LCD_ADM_ELWA_PROVIDER_NEW