Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg l-16 » Blwyddyn Flwch
Yn yr Adran Hon
Blwyddyn Fwlch
Blwyddyn fwlch ydy pan fyddi di'n cymryd blwyddyn allan rhwng ysgol, coleg neu brifysgol.
Ar ôl blynyddoedd o astudio gall blwyddyn fwlch roi saib i ti a chyfle i wneud rhywbeth gwahanol. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol os wyt ti eisiau mynd yn dy flaen i brifysgol ond yn ansicr beth wyt ti eisiau astudio neu wneud yn y dyfodol.
Dyma rhai esiamplau o bethau gallet ti wneud yn ystod blwyddyn fwlch:
- Gwaith gwirfoddol yn y DU neu dramor
- Gweithio rhan amser neu gael swydd dros dro i ennill a chadw ychydig o arian
- Dysgu sgiliau defnyddiol fel dysgu gyrru car neu wella dy sgiliau technoleg gwybodaeth
- Teithio dramor, unai'n annibynnol neu trwy gynllun i ddysgu am ddiwylliannau eraill
- Dysgu iaith drwy weithio dramor neu ddechrau dosbarthiadau nos
- Gweithio ar brosiect cadwraeth
I gael gwybodaeth a chyngor ar gymryd blwyddyn fwlch, gan gynnwys cysylltau i sefydliadau blwyddyn fwlch cer i: http://www2.careerswales.com/youngpeople/choices17/16to19_gap.asp?language=Welsh