Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Cosbau a Dedfrydau » Carchar
Yn yr Adran Hon
Carchar
Gall y llys roi dedfryd o gaethiwed i unrhyw un 10 oed neu hyn, ac mae’n fwyaf tebygol y bydd yn ei rhoi am y troseddau difrifol iawn, fel llofruddiaeth, trais rhywiol a lladrad arfog. Os ydych chi dan 18 oed ni allwch chi gael eich cadw mewn dalfa am gyfnodau hir oni bai fod y llys yn eich cael yn euog o’r canlynol:
Ymosodiad anweddus
Achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus
Achosi marwolaeth tra dan ddylanwad cyffuriau neu ddiod
Trosedd y byddai oedolyn yn cael o leiaf uchafswm dedfryd o 14 mlynedd yn y carchar amdani e.e. lladrad arfog.
Llofruddiaeth, lle gallwch chi gael eich cadw mewn dalfa hyd nes bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn penderfynu ei bod yn ddiogel eich rhyddhau – byth o bosib
Os ydych chi rhwng 12 a 14 oed ac wedi troseddu 3 gwaith neu fwy, a’r troseddau hynny o’r math y gallai oedolyn fynd i’r carchar amdanyn nhw, gallwch chi gael dedfryd o orchymyn hyfforddiant diogel sy'n golygu cosb rhwng 6 mis a 2 flynedd, hanner mewn canolfan hyfforddiant diogel a hanner yn y gymuned
Os ydych chi rhwng 15 a 17 oed, yn ogystal â chael eich cadw am gyfnod hir am droseddau difrifol, gallwch chi gael dedfryd i’ch cadw am droseddau eraill – fel oedolyn, ond mewn sefydliad troseddwyr ifanc am uchafswm o 2 flynedd.
Mae bywyd yn y carchar yn anodd, a bydd rheolau a rheoliadau yn eich rheoli bob amser. Bydd caniatâd ichi gadw mewn cysylltiad â phobl y tu allan i’r carchar dros y ffôn a thrwy llythyrau, ond mae yna gyfyngiad ar y rhain. Hefyd, bydd caniatâd i bobl o’r tu allan ddod i ymweld â chi. Mae cadw’r cysylltiad yma’n bwysig i’ch helpu i setlo yn ôl yn y gymdeithas arferol unwaith y daw’r ddedfryd i ben.
Os oes gennych chi deulu yn y carchar, fe allai fod yn help siarad â phobl sy’n gallu cynnig cefnogaeth ichi. Gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion.
www.prisonersfamilies.org.uk