Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Cosbau a Dedfrydau » Cofnodion Troseddol
Yn yr Adran Hon
Cofnodion Troseddol
Pan fyddi di'n cael dy farnu yn euog o drosedd, rwyt ti'n cael dedfryd a bydd gen ti gofnod troseddol.
Nid yw pob cofnod yn aros gyda thi am byth. Dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, os wyt ti wedi torri’r gyfraith yn y gorffennol, yn achos rhai troseddau os bydd cyfnod penodol wedi dod i ben, fe allai’r cofnod troseddol fod wedi ‘darfod’.
I gael mwy o fanylion am y cyfnod y mae’n rhaid i ti aros i’r cofnod troseddol fod wedi darfod gall ffonio Llinell Gymorth Resettlement Plus ar 020 7840 6464.
- Bydd euogfarn am Drosedd Dreisgar yn erbyn rhywun ifanc arall, sydd dan 18 oed, yn aros ar dy gofnod yn barhaol
- Bydd troseddau treisgar yn cael eu trin yn wahanol ac yn annhebyg i droseddau eraill y mae modd eu dileu oddi ar dy gofnod ar ôl cyfnod penodol, fe fydd y troseddau ‘Statws Atodlen Un’ yma yn aros gyda thi gydol dy oes
Trosedd Statws Atodlen Un
Mae hwn yn drosedd sydd yn cael ei gyflawni gan rywun o dan 18 oed, yn erbyn rhywun arall dan 18 oed.
Mae Troseddau Atodlen Un yn cynnwys:
- Ymosodiadau rhywiol ar blant, trais rhywiol, amryw ffurf o esgeuluso neu gam-drin, gan gynnwys llofruddiaeth a dynladdiad
- Mae hefyd yn cynnwys troseddau cyffredin fel ymosodiad cyffredin ac ymosodiad sy’n achosi anafiad corfforol i rywun iau na 18 oed
- Mae’n werth cadw mewn cof y gallai ymladd ar faes chwarae’r ysgol neu yn y stryd arwain at euogfarn o ymosodiad cyffredin – sef Trosedd Atodlen Un
Os wyt ti wedi cael yn euog o drosedd Statws Atodlen Un yna mae’n debygol y bydd cyfyngiad ar dy opsiynau o ran gyrfa, dewisiadau bywyd a gwaith. Os wyt ti’n gobeithio gweithio gyda phlant fe fydd yr heddlu yn gwirio dy gofnod yn awtomatig.
Os byddi di’n gwneud cais i fynd i’r coleg neu ar gwrs hyfforddiant, neu am swydd neu gerdyn credyd, i deithio i rai gwledydd a llawer o weithgareddau a dogfennau eraill fe fyddan nhw fel arfer yn gofyn i ti a oes gen ti gofnod troseddol.
Yn achos rhai swyddi fel dysgu, gwaith ieuenctid, nyrsio, gwaith gofal, nyrsio meithrin, hyfforddi chwaraeon a llawer mwy o swyddi lle byddi di'n gweithio gyda phobl, mae'n ofynnol cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn y gallet ti gael y swydd.
Mae'r DBS yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio diogel ac yn atal pobl anaddas rhag gweithio gyda grwpiau bregus, gan gynnwys plant. Mae'n cymryd lle'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a'r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA).