Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Cosbau a Dedfrydau » ASBOs



ASBOs

Beth yw ASBO?

  • Mae ASBO yn Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, mae'n orchymyn llys sifil sy'n gwahardd ymddygiad er mwyn diogelu’r cyhoedd
  • Nid yw'n gosb droseddol, ond mae awdurdodau efo'r grym i gyhoeddi enwau’r bobl â gorchmynion yn eu herbyn a rhoi eu henwau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu

All unrhyw un dderbyn ASBO?

  • Gall ASBO gael ei gyflwyno yn erbyn unrhyw un dros 10 oed

Am ba resymau y gall rhywun gael ASBO?

  • Am yr ymddygiad niwsans gwaethaf yn unig, megis achosi aflonyddwch, difrod troseddol, camdriniaeth hiliol, dwyn ceir a fandaliaeth

Oes posib apelio yn erbyn ASBO?

  • Oes, yn yr un ffordd ag apelio yn erbyn euogfarn
  • Mae apêl yn mynd gerbron Llys y Goron sydd yn ail-glywed yr achos ac mae angen rhoi rhybudd apêl ysgrifenedig i swyddog apwyntiedig y llys o fewn 21 diwrnod o wneud yr orchymyn

Ydyn nhw’n farc parhaol ar fy mywyd?

  • Gan fod ASBO yn orchymyn sifil yn hytrach na chosb droseddol, ni fyddai’n dangos ar gofnod troseddol unigolyn
  • Fodd bynnag, mae torri darpariaeth ASBO yn drosedd a all arwain at hyd at 5 mlynedd yn y carchar

Beth yw’r diffiniad o ‘wrthgymdeithasol’?

  • Y diffiniad cyfreithiol yw ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu bryder
  • Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys yfed yn gyhoeddus, niwed troseddol, fandaliaeth, llosgi bwriadol, taflu sbwriel, niwsans cadw sŵn a graffiti

Oes graddau gwahanol o ASBOs?

  • Does dim graddau gwahanol o ASBOs
  • Mae gorchymyn yn cynnwys amodau sy’n gwahardd y troseddwr rhag gwneud pethau penodol gwrthgymdeithasol neu rhag mynd i ardaloedd sydd wedi eu diffinio, ac mae mewn grym am o leiaf dwy flwyddyn
  • Nid yw’r gorchmynion yn sancsiynau troseddol ac nid cosbi’r troseddwr yw eu pwrpas

Oes rhybuddion cyn cael ASBOs?

  • Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedau Cymru (CSPs) yn taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda phroses ymyrraeth pedwar cam sydd wedi ei thargedu, â’r nod o ddelio ag ymddygiad niwsans cyn iddo gynyddu i fod yn ASBO
  • Mae hyn yn cynnwys llythyrau rhybuddio, ymweliadau cartref a Chytundebau Ymddygiad Derbyniol

Pwy sy’n cyflwyno ASBO?

  • Gorchmynion sifil yw ASBO a gyflwynir gan lysoedd yr Ynadon ar gais yr Heddlu, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Heddlu Trafnidiaeth Prydain neu Asiantaeth yr Amgylchedd

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50