Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled » Ysgariad



Ysgariad

Ym Mhrydain, rhagfynegir y bydd un ymhob tair priodas yn diweddu ag ysgariad.

Mae sawl rheswm pam na gall dy rieni benderfynu rhoi'r gorau i fod gyda'i gilydd. Bydd rhai cyplau yn darganfod nad oes arnynt eisiau'r un pethau neu efallai na fyddant yn cyd-dynnu, er enghraifft.

Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n bwysig cofio nad wyt ti ar fai. Mae dy rieni wedi gwneud y penderfyniad gyda'i gilydd ac nid yw hynny’n golygu eu bod wedi newid eu teimladau atat ti.

Dy deimladau

Bydd pawb yn delio ag ysgariad yn wahanol, a gelli deimlo unrhyw gymysgedd o emosiynau, yn cynnwys:

  • Sioc: efallai nad wyt wedi disgwyl i dy rieni ysgaru neu efallai nad wyt yn dymuno hynny. Fe wnaeth y teimlad o sioc leihau ymhen amser
  • Dig: efallai dy fod yn teimlo'n ddig at dy rieni oherwydd eu hysgariad. Paid â cholli rheolaeth o dy ddicter. Dyweda wrthynt sut mae’n gwneud i ti deimlo
  • Gofidus: efallai dy fod yn gofidio am y newidiadau newydd i dy fywyd ac y gallai un o dy rieni roi’r gorau i fyw gyda thi
  • Dryslyd: efallai nad wyt yn gwybod nac yn deall pam fod dy rieni yn ysgaru
  • Rhyddhad: os nad yw dy rieni wedi bod yn cyd-dynnu, gall eu hysgariad wneud y sefyllfa yn y tŷ yn llawer haws a thawelach
  • Ofnus: efallai byddi’n ofni beth all ddigwydd i ti o gofio na fydd dy rieni gyda'i gilydd o hyn ymlaen
  • Euog: efallai dy fod yn credu dy fod ar fai mewn rhyw ffordd, ond nid wyt ar fai

Paid â chadw'r teimladau hyn i ti dy hun. Mae gennyt hawli i deimlo’r holl emosiynau hyn felly siarada â dy rieni. Cofia, maent hwythau yn wynebu amser anodd, felly cefnogwch eich gilydd.

  • Efallai dy fod yn teimlo fod rhaid i ti gefnogi’r naill neu’r llall, ond ni ddylai dy rieni ddisgwyl i ti wneud hyn. Yn yr un modd, paid â theimlo dy fod wedi dy ddal yn y canol. Penderfyniad dy rieni yw hyn a hwy sy'n gyfrifol am ddatrys pethau
  • Cofia fod dy rieni yn wynebu amser anodd iawn a llawn straen. Nid yw hyn yn golygu nad ydynt ar gael i ti
  • Efallai dy fod yn teimlo na wnaiff pethau fyth wella. Os waeth pa mor ddrwg rwyt yn teimlo nawr, fe wnaiff pethau wella i ti a dy deulu. Bydd angen amser i bethau sefydlogi ond nid oes rhaid i ti ymdopi â hyn ar dy ben dy hun
  • Efallai dy fod yn teimlo nad oes arnat eisiau bwyta, yn methu canolbwyntio ac yn cael trafferth cysgu. Mae hyn yn arferol iawn yn y lle cyntaf, ond dylet siarad â dy feddyg os yw'r pethau hyn yn parhau ac yn atal rhag byw dy fywyd

Cael cefnogaeth

  • Mae’n bwysig dweud wrth dy rieni sut wyt yn teimlo a holi unrhyw gwestiynau sydd ar dy feddwl. Byddant yn dymuno sicrhau dy fod yn iawn. Mae’n debyg fod aelodau eraill y teulu yn rhannu dy deimladau, yn enwedig os oes gennyt frodyr neu chwiorydd. Siarada â hwy ynghylch dy emosiynau a dy deimladau hefyd oherwydd fe wnaiff hyn hwyluso pethau i bawb
  • Os na elli siarad â dy deulu, siarada â rhywun y gelli ymddiried ynddo ynghylch dy feddyliau a dy deimladau. Efallai fod gennyt ffrind sydd wedi profi’r un peth, felly efallai gall gynnig cyngor i ti
  • Gweler y dolenni ar ddiwedd yr adran hon i gael manylion ffynonellau cyngor a chymorth eraill. Mae pobl ar gael i wrando arnat a dy gefnogi fel na fyddi’n teimlo dy fod ar dy ben dy hun
  • Ceisia wneud pethau rwyt yn eu mwynhau i dy gynorthwyo i deimlo'n well a rhoi cyfle i ti ymdopi â dy deimladau

Beth sy’n digwydd nawr?

  • Os yw dy rieni wedi penderfynu ysgaru, nid oes rhaid iddynt fynd i lys barn. Gallant ddelio â hyn ar bapur
  • Os na all dy rieni gytuno ynghylch ble ddylet fyw, bydd angen iddynt fynd i’r llys i’w cynorthwyo i wneud y penderfyniad
  • Efallai gall yr Asiantaeth Cynnal Plant hefyd gynorthwyo dy rieni i benderfynu neu efallai gall dy rieni fynd i weld cyfryngwr
  • Bydd dy rieni yn siarad â chyfreithiwr a wnaiff eu cynorthwyo â'r broses a chynnig dewisiadau iddynt
  • Ar gyfartaledd, bydd angen 6 – 8 mis i drefnu ysgariad, ond os bydd problemau, efallai bydd angen rhagor o amser

Dy hawliau

  • Yn anffodus, os wyt dan 16 oed, nid oes gennyt unrhyw hawliau cyfreithiol. Fodd bynnag, os na all dy rieni benderfynu ble byddi’n byw neu faint o amser gelli dreulio gyda'r rhiant arall, fe wnaiff y llysoedd ystyried dy safbwyntiau. Meddylia’n ofalus beth yw dy ddymuniadau go iawn a phaid ag ofni brifo teimladau dy rieni. Mae angen i ti ystyried beth sydd orau i ti ar hyn o bryd
  • Os wyt dros 16 oed, bydd gennyt hawl i drafod â dy rieni ynghylch ble byddi'n byw a faint o amser wnei di dreulio gyda hwy. Ni wnaiff y llysoedd wneud y penderfyniadau hyn i ti. Cofia sicrhau mai dy ddewis di yw hyn a phaid â theimlo’n euog am dy ddewis.
  • Siarada gyda ffrindiau neu aelodau eraill o’r teulu am dy benderfyniad os gwnaiff hynny helpu

Y dyfodol

  • Pan fyddant wedi ysgaru, bydd dy rieni yn dal yn rhieni cyfreithlon i ti. Cofia eich bod yn dal yn deulu hyd yn oed os ydych yn byw ar wahân
  • Gall ysgariad arwain at newidiadau positif iawn. Os nad yw eich rhieni wedi bod yn cyd-dynnu, dylai hyn wneud pethau’n llawer gwell i bawb. Efallai y gwnaiff hyn ddod â thi’n agosach at dy rieni, oherwydd byddwch wedi wynebu amser anodd gyda’ch gilydd
  • Bydd angen amser i addasu i’r sefyllfa, ond cofia, waeth pa mor ddrwg yw pethau, fe wnaiff y sefyllfa wella ac fe wnaiff bywyd arferol ddychwelyd yn fuan

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50