Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled » Gadael Cartref



Gadael Cartref

 

Gall gadael cartref ddigwydd oherwydd amrywiaeth o resymau – symud i rywle arall i fyw dy hun neu gyda ffrindiau, symud i mewn gyda phartner, mynd i Brifysgol neu gychwyn gweithio yn rhywle arall.  Weithiau, gall gadael cartref ymddangos fel yr unig ddewis os bydd problemau gartref.

     
  • Os wyt dros 18 oed, gelli adael cartref heb ganiatâd dy rieni
  • Os wyt yn 16 neu 17 oed, bydd arnat angen caniatâd dy rieni cyn gadael. Os wyt dan 16 oed, yna nid oes gennyt unrhyw hawl i adael cartref oni bydd dy ddiogelwch mewn perygl
  • Os byddi’n gadael cartref, efallai gwnei wynebu anawsterau wrth geisio rhentu cartref, oherwydd ni chaniateir i ti gael tenantiaeth nes byddi'n 18 oed
  • Os wyt yn anhapus neu mewn perygl, mae pobl y gelli siarad â hwy i gael gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor, megis cael llety mewn argyfwng. Mae’r dolenni ar waelod yr adran hon
  • Os yw hynny’n briodol, siarada â dy rieni neu dy ofalwyr am dy gynlluniau. Efallai gallant dy gynorthwyo
  • Efallai bydd hi'n syniad da ymweld â dy ganolfan leol cymorth tai, gweithiwr ieuenctid, neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth, a all dy gynorthwyo i ystyried y dewisiadau
  • Beth bynnag yw dy reswm dros adael cartref, cofia sicrhau fod gennyt rywle i fynd iddo. Cofia neilltuo digon o amser i chwilio am lety, oherwydd gall hyn gymryd mwy o amser na’r hyn wyt yn ei feddwl
  •  

Arian

     
  • Mae trefnu dy arian cyn gadael cartref yn bwysig.  Llunia gyllideb o dy incwm a dy wariant i weld faint elli di fforddio
  • Os wyt yn bwriadu symud i dŷ rhent, bydd rhaid i ti dalu blaendal, sydd yn fis o rent ymlaen llaw fel arfer
  • Os oes angen i ti brynu dodrefn ac ati, chwilia mewn siopa ail law neu gofynna i dy ffrindiau a dy deulu a oes unrhyw beth ar gael ganddynt
  • Os byddi'n rhentu’n breifat, efallai byddi’n gymwys i gael help i dalu rhent
  • Os wyt yn gadael gofal neu’n anabl, efallai dy fod yn gymwys i gael grant i dy gynorthwyo
  • Y dewis gorau yw siarad â rhywun mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth ynghylch dy ddewisiadau i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael i ti cyn i ti wneud unrhyw benderfyniadau

 

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50