Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled » Gwahanu
Yn yr Adran Hon
Gwahanu
Gall perthnasau orffen oherwydd amrywiaeth o resymau, a gall fod yn boenus pan fydd pethau ar ben. Yn anffodus, nid yw rhai perthnasau wedi'u gwneud i bara am byth. Cofia, byddi’n dysgu o bob profiad a gall yr hyn a ddysgi yn sgil perthynas yn dod i ben dy gynorthwyo yn y dyfodol.
Nid yw gwahanu yn beth hawdd i neb, waeth pa mor dda neu ddrwg oedd y berthynas. Gall diwedd perthynas roi cyfle i ti ystyried ble aeth pethau o’u lle a beth wyt yn dymuno’i gael o dy berthynas nesaf yn y dyfodol.
Pa un ai ti fydd yn diweddu'r berthynas neu beidio, gall fod yn resynus a phoenus i ddechrau, ond fe wnaiff dy deimladau wella ymhen amser.
Y ffordd iawn?
Weithiau, bydd pobl yn ansicr ynghylch sut i orffen perthynas, ac yn lle wynebu’r sefyllfa, byddant yn rhoi’r gorau i gyfathrebu gan obeithio y bydd y person arall yn deall hynny.
Nid yw’n ffordd ddymunol o ddelio â phethau ac efallai na fydd y person arall fydd yn deall yn iawn beth aeth o’i le neu pam wnaeth y berthynas orffen.
- Os wyt yn ystyried gorffen dy berthynas â dy bartner, ystyria sut hoffet ti gael dy drin pe bai dy bartner yn dymuno dod â’r berthynas i ben
- Os nad yw’r berthynas yn llwyddo, mae’n well bod yn onest â dy bartner a'i siomi yn araf bach
- Bydda’n deg ac yn garedig, oherwydd roeddech unwaith yn ago, felly mae’n haeddu cael ei drin/thin â pharch ac urddas
- Ceisia ddweud wrth dy bartner wyneb yn wyneb, oherwydd fe wnaiff hyn roi cyfle i ti egluro dy resymau yn iawn ac yn rhoi cyfle iddo/iddi holi cwestiynau a dweud sut mae'n teimlo. Ni fydd yn hawdd ond fe wnaiff dy barchu am ymdrin â phethau’n dda
- Os yw dy berthynas wedi dod i ben oherwydd mae dy bartner wedi stopio cysylltu â thi, gall hyn beri dryswch. Ceisia ddarganfod beth sy’n digwydd – siarada â dy bartner neu trefna i gwrdd i drafod y sefyllfa
- Mae angen i ti wybod beth sy'n digwydd, ac nid yw'n deg cael dy adael heb unrhyw fanylion. Gall cael dy anwybyddu fod yn brofiad gofidus a llawn cywilydd, ond os wyt wedi ceisio cysylltu â dy bartner ychydig o weithiau ond yn aflwyddiannus, efallai mai gadael pethau fel y maent yw’r dewis gorau
Dygymod â phethau
Waeth pa mor ddrwg wyt ti'n teimlo nawr, fe wnaiff pethau wella. Efallai byddi’n teimlo cymysgedd o emosiynau – digalon, dryslyd, dig, euog, dihyder a dan straen. Fe wnaiff dy deimladau wella ymhen amser.
- Mynega dy deimladau - paid â'u cadw i ti dy hun. Mae crio yn hollol normal – mae hyn yn rhan o’r broses wella. Mae cofio’r amseroedd da a dreulioch gyda’ch gilydd yn iawn, a cheisia gofio am y pethau positif y gwnaethoch eu dysgu o’ch amser gyda'ch gilydd
- Efallai y byddi’n teimlo’n ddigalon a ddim yn dymuno mynd allan, ond fe wnaiff dy gynorthwyo os gwnei di gadw'n brysur gyda ffrindiau a theulu. Ceisia brofi rhywbeth newydd a neilltua amser i wneud y pethau rwyt yn eu mwynhau. Cychwynna hobi newydd neu ceisia fynd i lefydd gwahanol; fe wnaiff hynny wneud i ti deimlo'n well a chynyddu dy hyder
- Meddylia’n bositif – gall hyn dy gynorthwyo i ddygymod â diwedd y berthynas a chychwyn o’r newydd
- Efallai byddi’n gweld colli dy bartner yn arw i ddechrau. Cofia beth oeddet ti’n arfer ei wneud cyn cychwyn y berthynas
- Mae’n debyg y gwnei deimlo ymdeimlad o golled. Os oeddet yn arfer rhannu dy broblemau â dy bartner, yna bydd angen i ti ganfod person newydd neu grŵp newydd o bobl i dy gefnogi. Siarada trwy bethau â dy ffrindiau a dy deulu; maent ar gael i wrando arnat a dy gefnogi
- Bydd pobl yn aml yn ei chael hi’n haws i dorri pob cysylltiad â’u cyn-gariad pan ddaw perthynas i ben i roi cyfle iddynt ddygymod â phethau. Efallai bydd hyn yn anodd os ydych yn byw yn yr un ardal, yn mynychu’r un ysgol, yn gweithio gyda'ch gilydd, yn ymweld â’r un llefydd ac yn treulio amser gyda’r un ffrindiau
- Efallai dy fod yn ysu i ailgychwyn y berthynas, ond os nad yw rhywun yn dymuno bod gyda thi bellach, yna ni wnaiff dim byd a wnei di newid ei feddwl. Efallai bydd yn well i ti gadw dy falchdra a derbyn fod pethau ar ben, yn lle ceisio perswadio dy gynbartner dros ar ôl tro i ailddechrau'r berthynas
- Os yw’n canlyn rhywun newydd, bydd gweld y ddau gyda'i gilydd yn gwneud pethau’n fwy poenus i ti, fell am y tro, dylet newid yr hyn byddi’n ei wneud fel arfer, y mannau y byddi’n mynd iddynt a’r bobl y byddi’n treulio amser yn eu cwmni. Caniatâ ddigon o le ac amser i ti dy hun i ddygymod â phethau heb ddod ar draws dy gyn-gariad
- Ceisia beidio teimlo’n chwerw am dy gyn-gariad, oherwydd fe wnaiff y teimladau hyn ddod i ben ymhen amser. Bydda’n ofalus sut byddi’n ymddwyn ato/ati, oherwydd efallai byddi’n edifar yr hyn a ddywedi yn y dyfodol
- Pan fyddi’n teimlo’n barod, efallai y bydd arnat eisiau cwrdd â dy gyn-gariad fel ffrindiau. Paid â chael dy demtio i gysylltu o’r newydd os wyt yn disgwyl cychwyn perthynas newydd â dy gyn-gariad - efallai bydd wedi cychwyn perthynas newydd, ac fe wnaiff hynny waethygu’r boen i ti
- Pan fyddi’n barod, efallai y gelli di ystyried cychwyn perthynas newydd. Gallai hyn helpu i beidio meddwl am dy gyn-gariad a rhoi hwb sylweddol i dy hyder hefyd