Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled » Colledion



Colledion

Gall y teimlad o golled fod yn ofnadwy. Efallai dy fod wedi colli anifail anwes, neu efallai fod rhywun sy'n agos atat wedi mynd ar goll, neu efallai dy fod wedi colli ffrind. Yn drist iawn, efallai dy fod wedi colli baban.

Mae’r adran hon wedi’i rhannu’n wahanol bynciau i drafod gwahanol fathau o golledion.

Anifeiliaid Anwes

  • Pan fydd dy anifail anwes yn marw, mae teimlo'r un teimladau â phe bai person wedi marw yn hollol arferol. Weithiau, byddant yn teimlo’n rhan o'r teulu
  • Gall colli anifail anwes rwyt wedi gofalu amdano fod yn ofidus iawn. Bydd angen amser i ti ymdopi â cholli dy anifail anwes
  • Waeth pa mor drist a digalon y byddi, cofia y gwnaiff pethau wella ymhen amser
  • Rhanna dy deimladau â dy rieni neu dy ofalwyr, oherwydd mae’n bwysig peidio cadw dy deimladau i ti dy hun
  • Efallai gall cynnal gwasanaeth neu seremoni i goffau dy anifail anwes gynhorthwyo - gall gynnig cyfle i ti ddweud ffarwel
  • Efallai y byddi’n dymuno darllen adran marwolaeth y wefan hon hefyd. Mae’n trafod effeithiau emosiynol a chorfforol ymdopi â marwolaeth

Ffrindiau yn symud i rywle arall

  • Wrth i ni dyfu’n hŷn, bydd ein bywydau’n newid a bydd llawer o bobl yn symud i wahanol lefydd
  • Mae sawl rheswm pam fod pobl yn symud i lefydd eraill – yn sgil gwahanu, newid swydd, ysgol newydd neu weithiau bydd pobl yn dymuno dechrau o'r dechrau mewn lle newydd
  • Mae’n hollol naturiol i dy grwpiau ffrindiau newid yn yr ysgol, ac yn fwy cyffredin, pan fyddi'n gadael yr ysgol a chychwyn gwneud penderfyniadau mwy am dy yrfa a dy berthnasau
  • Os bydd dy ffrindiau yn symud i rywle arall, ni fydd hynny’n golygu diwedd eich cyfeillgarwch. Er na fyddi’n gallu eu gweld mor aml â hynny, byddwch yn dal i allu cadw cysylltiad trwy ffonio, e-bostio, rhwydweithiau cymdeithasol, trwy ysgrifennu at eich gilydd neu ymweliadau
  • Mae teimlo’n drist ac unig pan fydd ffrind agos yn symud i rywle arall yn gwbl arferol. Fe wnaiff y teimladau hyn fynd heibio ymhen amser, a byddi’n gwneud ffrindiau newydd yn yr ysgol neu’r gwaith yn fuan, ac fe ddowch yn ffrindiau agos

Pobl sydd ar goll

  • Bydd tua 200,000 o bobl o Brydain yn mynd ar goll oddi wrth eu teulu bob blwyddyn. Fodd bynnag, bydd y mwyafrif yn dychwelyd ymhen ychydig ddyddiau
  • Os wyt yn hiraethu am berthynas neu rywun annwyl, gall fod yn amser pryderus a gofidus
  • Cadwa’n agos at y bobl rwyt sy’n agos atat. Mae’n bwysig glynu wrth eich gilydd, rhannu eich teimladau a chefnogi'ch gilydd
  • Os hoffet chwilio am rywun sydd ar goll, mae sefydliadau ar gael a all gynnig cyngor i ti i geisio cysylltu â'r sawl sydd ar goll

Colli plentyn

  • Ystyr colli plentyn yw beichiogrwydd sy’n dod i ben yn ddisymwth ac yn gynnar. Bydd yn teimlo fel misglwyf trwm, ac efallai byddi’n profi poenau crampiau a gwayw difrifol ac yn gwaedu’n drwm
  • Bydd hyn yn digwydd gan amlaf yn ystod 14 wythnos gyntaf beichiogrwydd
  • Weithiau, bydd pobl yn colli plentyn yn gynnar heb sylweddoli eu bod yn feichiog
  • Weithiau, collir plentyn heb unrhyw reswm amlwg am hynny neu oherwydd damwain neu gyflwr meddygol. Nid ydym yn deall hyn yn iawn, ond mae'n digwydd i lawer o bobl. Yn y rhan fwyaf o achosion o golli plentyn, bydd y sefyllfa y tu hwnt i dy reolaeth, felly paid â beio dy hun
  • Gall fod yn amser torcalonnus iawn a bydd angen cymorth emosiynol arnat, felly tro at dy bartner, dy deulu neu dy ffrindiau i gael cymorth i ymdopi â phethau. Siarada â dy feddyg a chofia holi unrhyw gwestiynau y bydd gennyt
  • Nid yw colli plentyn yn golygu na elli gael plant yn y dyfodol, a bydd llawer o ferched yn cael nifer o blant ar ôl beichiogrwydd sydd wedi methu

Terfynu Beichiogrwydd/Erthyliad

  • Mae terfynu beichiogrwydd yn benderfyniad anodd iawn felly dylet siarad â dy feddyg teulu am dy ddewisiadau yn gyntaf. Mae sawl rheswm posibl dros derfynu beichiogrwydd. Gallai ddigwydd oherwydd teimlad na elli ymdopi â babi neu oherwydd rhesymau meddygol. Beth bynnag fo’r rheswm, chwilio am gymorth yw’r dewis gorau
  • Mae terfynu beichiogrwydd yn broses feddygol ddiogel ac ni wnâiff effeithio ar dy allu i gael plant yn y dyfodol
  • Nid yw’r profiad o derfynu beichiogrwydd yn hawdd i unrhyw un, felly mae’n bwysig cael y cymorth angenrheidiol gan dy bartner, dy deulu neu dy ffrindiau
  • Bydd llawer o ferched yn profi teimladau o euogrwydd, straen, iselder ac ymdeimlad o golled wedi hynny
  • Mae rhai pobl yn teimlo'n gryf yn erbyn erthyliadau, ond cofia, dy benderfyniad di fydd hi. Dy gorff di yw e, felly TI ddylai benderfynu
  • Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, trafoda â dy feddyg teulu i gael yr holl wybodaeth angenrheidiol
  • Mae nifer o sefydliadau y gelli gysylltu â hwy i gael cyngor, ffeithiau, gwybodaeth a chymorth. Gallant wrando arnat, felly ni fydd rhaid i ti ddelio â’r straen emosiynol dy hun
  • Efallai byddi'n dymuno darllen am erthyliadau yn adran iechyd y wefan hon

Colli plentyn wrth roi genedigaeth

  • Mae colli plentyn wrth roi genedigaeth yn brofiad emosiynol dros ben a bydd angen llawer iawn o gefnogaeth arnat i dy gynorthwyo. Yn ogystal ag ymdopi â thrawma genedigaeth a’r holl hormonau a ddaw yn sgil hynny, byddi hefyd yn galaru ar ôl colli dy faban
  • Os gelli wneud hynny, efallai bydd gweld a gafael yn dy faban yn dy gynorthwyo. Trafoda hyn â dy bartner neu’r meddyg. Nid oes rhaid i ti wneud unrhyw beth yn groes i dy ewyllys
  • Gall y fydwraig dynnu llun y gelli ei gadw, a gall hyn gynnig cyfle i ti fynegi dy deimladau ac ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd. Nid ddylet wneud hyn oni byddi’n hollol fodlon ac ni ddylet deimlo dan unrhyw bwysau
  • Bydd angen amser i ti ymdopi â dy deimladau. Paid â bod yn rhy galed arnat dy hun a phaid â digalonni os na fydd pethau’n gwella’n syth. Rwyt yn galaru
  • Mae cael yr holl gefnogaeth angenrheidiol yn hanfodol. Siarada â’r sawl sydd o dy gwmpas a dyweda wrthynt sut wyt yn teimlo. Efallai y gelli ystyried cynnal angladd ar gyfer dy faban, ond mae hyn yn ddewis personol iawn y mae’n rhaid i ti ei wneud gyda dy bartner

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50