Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled » Marwolaeth



Marwolaeth

Gall colli rhywun annwyl fod yn sioc anferth ac yn rhywbeth poenus iawn i ymdopi ag o.

Os wyt yn agos at rywun sydd wedi marw, mae profi pob mathau o emosiynau anodd yn brofiad arferol, ac mae pawb yn ymateb yn wahanol. Efallai bydd yn teimlo fel na waniff y boen a'r tristwch rwyt yn eu profi fyth wella.

  • Cofia nad wyt ar dy ben dy hun. Mae llawer o bobl y gelli siarad â hwy i drafod sut wyth yn teimlo, a gallant dy gefnogi trwy'r cyfnod anodd hwn
  • Nid oes ffordd gywir nac anghywir o alaru, ond mae dulliau iach o ymdopi â’r boen, a gallant wneud i ti deimlo'n well mae o law
  • Mae teimlo'n drist, pryderus neu unig yn ddull cyffredin o ymateb i golled. Nid yw crio yn golygu dy fod yn wan. Nid oes rhaid i ti ddiogelu dy deulu na dy ffrindiau trwy ymddangos yn ddewr. Gall dangos dy wir deimladau eu helpu hwy a dy helpu di
  • Efallai byddi’n teimlo'n flin fod yr unigolyn wedi’i gymryd o dy fywyd, neu fod eu bywyd ar ben, yn enwedig os bu’n sâl neu mewn damwain. Mae hyn yn ymateb cwbl arferol hefyd
  • Mae crio yn ymateb cyffredin i’r dicter neu’r tristwch y gelli fod yn eu teimlo, ond nid dyma’r unig ymateb. Efallai fod y sawl na fyddant yn wylo yn teimlo’r boen yr un mor ddwfn ag eraill. Efallai fod ganddynt ddulliau eraill o ddangos hynny
  • Nid oes cyfnod amser iawn nac anghywir i alaru. Gall y cyfnod amrywio yn ôl yr unigolyn
  • Fe wnaiff ceisio anwybyddu’r boen neu ei atal rhag amlygu ei hun wneud pethau’n waeth yn y tymor hir. I gael gwellhad go iawn, mae angen i ti wynebu dy alar a delio’n weithredol â hynny
  • Efallai gall dy gynorthwyo i drafod dy deimladau â dy deulu neu ffrindiau yr oedd yr unigol a gollwyd hefyd yn agos atynt. Byddant yn teimlo'r un fath â thi, a gallai rhannu dy alar gynorthwyo pawb
  • Ymhen amser, fe wnaiff y boen wella, a bydd gennyt atgofion am yr amseroedd da a rannaist gyda’r sawl rwyt wedi’i golli

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 23 mis yn ôl - 29th October 2014 - 11:18am

There's an excellent free app called Grief: Support for Young People that has lots of bereavement info, support and advice.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50