Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Canolfan Orffwys
Yn yr Adran Hon
Canolfan Orffwys
Adeilad ydy canolfan orffwys sydd wedi'i ddewis gan rhai yn yr awdurdod lleol. Mae'n le i ti aros os nad yw dy gartref yn ddiogel. Bydd yna fwyd, dŵr a gwely i ti eu defnyddio. Gallai fod yn ysgol neu'n ganolfan cymunedol.
Mae canolfannau gorffwys yn cael eu sefydlu mewn argyfyngau eithafol. Bydd y gwasanaethau brys neu'r awdurdod lleol yn dweud wrthyt ti ble i fynd.
Wedi cyrraedd bydd angen i ti roi enw, cyfeiriad ac unrhyw beth arall byddant angen gwybod, i'r heddlu, staff neu wirfoddolwyr.