Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Gwasanaethau brys



Gwasanaethau Brys

Os wyt ti'n wynebu argyfwng, galwa 999 ar gyfer yr heddlu, tân neu ambiwlans. Dylai'r gwasanaeth 24 awr yma gael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd ble mae, er esiampl:

  • Rhywun mewn perygl brys
  • Trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth
  • Trosedd difrifol ar y gweill neu'n debygol o ddigwydd
  • Un a ddrwgdybir o drosedd difrifol gerllaw
  • Damwain ffordd gydag anafiadau neu berygl
  • Person bregus angen sylw brys

Bydd y person profiadol ar ben arall y ffôn yn trefnu'r adnodd agosaf, mwyaf priodol ar gyfer dy argyfwng. Byddi di'n cael dy gysuro, cael gwybod beth i wneud, rhybuddio o unrhyw beryglon a ble i fynd am loches.

Os wyt ti'n cael dy wahanu oddi wrth ffrindiau neu deulu bydd y person ar y ffôn yn gweithio gydag eraill i gael pawb yn ôl at ei gilydd. Paid â chynhyrfu – mae'n bwysig iawn rhoi'r wybodaeth gywir.

Heddlu

Os wyt ti angen yr heddlu ond nid yw’n achos brys, galwa 101. Mae'r gwasanaeth 24 awr yma ar gyfer achosion sydd ddim angen ymateb brys syth, er esiampl:

  • I adrodd trosedd neu weithgaredd troseddol sydd ddim yn digwydd ar y pryd
  • I gysylltu swyddog heddlu lleol
  • I basio gwybodaeth ymlaen am weithgaredd troseddol
  • I ofyn am eiddo coll
  • I chwilio am wybodaeth neu gyngor

Mae'r bobl ar ochr arall y ffôn wedi cael hyfforddiant i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac yn gwbl gyfarwydd efo materion plismona a dy ardal di.

Darparwyd y wybodaeth yma gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
Dyfed-powys.pcc.police.uk
Twitter.com/DPOPCC
Facebook.com/dyfedpowyspoliceandcrimecommissioner

Tân

Ystafell Rheoli Tân

Yn cymryd galwadau brys ac yn cysylltu gydag ymladdwyr tân i sicrhau ymateb sydyn a priodol wrth ddarparu cysur a chyngor goroesi bywyd fel bod angen.

Ymateb i Dân

Dyma'r rhan draddodiadol a hanfodol ble rydym yn sicrhau ein bod yn gyrru offer a dynion tân i ddigwyddiadau tân mor sydyn â phosib.

Galwadau Gwasanaeth Arbennig

Yn ymdrin â galwadau eraill heblaw am dân sydd angen presenoldeb offer neu swyddog(ion) tân, fel:

  • Damweiniau ffordd
  • Achub personau
  • Digwyddiadau llifogydd amgylcheddol a domestig
  • Ymateb i Ddamweiniau Ffordd

    Yn aml mae gofyn arnom i ymateb i ddamweiniau ffordd gydag offer arbenigol ac ymladdwyr tân. Mae rhai o'r tasgau yn cynnwys diogelu cerbydau, rhyddhau pobl a golchi'r lonydd o unrhyw sylweddau neu ddefnyddiau peryglus.

    Argyfyngau Sifil

    Gweithio gyda phartneriaid i ymdrin ag unrhyw faterion cenedlaethol mawr fel streicio tanwydd, llifogydd difrifol, tanau gwyllt neu pandemig.

    Cynlluniau Terfysgaeth

    Mewn cydweithrediad â'r gwasanaeth Heddlu, rydym yn sicrhau bod ein cymunedau wedi'u hamddiffyn a hefyd bod gennym ymladdwyr tân sydd wedi'u hyfforddi yn briodol ac efo'r offer cywir i ymdrin â digwyddiadau o derfysgaeth boed hynny yn digwydd.

    Chwilio ac Achub Trefol

    Mae gennym bersonél wedi'u hyfforddi yn arbennig ac offer i allu ymdopi â chwilio am ddioddefwyr trychinebau yn ymwneud â dymchweliad adeileddol. Yn y blynyddoedd diweddaraf mae ein hymladdwyr tân wedi ymateb i ddaeargrynfeydd yn Seland Newydd a Haiti, yn ogystal â'r ymdrech lleol i geisio achub pobl mewn pwll glo ym Mhontardawe ym mis Medi 2011

    Amddiffyniad Amgylcheddol

    Rydym yn cyfrannu'n gyfrifol i unrhyw sefyllfa ble fydd llygredd un ai wedi digwydd neu yn debygol o ddigwydd. Fel hyn fedrem helpu cynnal yr amgylchedd naturiol a lleihau'r effaith o'r fath lygredd.

    Darparwyd y wybodaeth yma gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
    www.southwales-fire.gov.uk
    facebook.com/SWFireandRescue
    twitter.com/SWFRSRoadSafety

    Ambiwlans

    Pan fyddi di'n galw 999 bydd rhywun yn gofyn 'Pa wasanaeth ydych chi eisiau?' Dyweda "ambiwlans". Byddant yn cysylltu ti gyda rhywun yn ystafell reoli'r ambiwlans.

    Bydd y person yn gofyn i ti:

    1. Beth yw cyfeiriad yr argyfwng? Dyma yw'r cyfeiriad ble mae angen cymorth.
    2. Beth yw'r rhif rydych yn galw ohono? neu Fedri di wireddu'r rhif ffôn ti'n galw ohono?
    3. Dywedwch yn union beth sydd wedi digwydd? Golygai hyn, beth sydd yn bod efo'r person ti'n galw ar ei ran?
    4. Ydych chi efo'r claf nawr?
    5. Faint oed yw ef neu hi?
    6. Ydy o neu hi yn effro?
    7. Ydy o neu hi yn anadlu?
    8. Efallai bydd y person yn gofyn cwestiynau eraill i ti. Ceisia ateb nhw mor gywir â phosib
    9. Bydd y person yn gwrando ar beth wyt ti'n ei ddweud ac yna'n penderfynu os oes angen ambiwlans
    10. Cyn i'r person orffen y galwad byddant yn gofyn i ti am dy enw
    11. Os nad oes angen ambiwlans arnat ti byddant yn dweud wrthyt ti beth i'w wneud
    12. Os yw'n fater brys yna byddant yn gyrru ambiwlans

    Os yw ambiwlans ar ei ffordd:

    • Paid cynhyrfu
    • Galwa 999 eto os yw'r person yn gwaethygu
    • Aros gyda'r person nes bydd yr ambiwlans yn cyrraedd
    • Estyn unrhyw feddyginiaeth gallent fod yn cymryd os fedri di
    • Darganfod enw doctor y person os fedri di
    • Rho anifeiliaid anwes yn rhywle diogel fel nad ydym yn y ffordd
    • Agor y drws a chodi llaw ar yr ambiwlans pan ddaw

    Darparwyd y wybodaeth yma gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
    www.ambulance.wales.nhs.uk/theroom
    www.facebook.com/nhsdirectwales

    Related Media

    Useful Links

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50