Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Ymgiliad
Yn yr Adran Hon
Gwacau eich ty
Mae’n bosib i’r Heddlu ofyn i chi adael eich ty. Ceisiwch beidio â phoeni os na fydd eich rhieni efo chi i ddechrau. Fe wnaiff yr Heddlu ac eraill geisio dweud wrth eich teulu ble’r ydych chi.
OS bydd gennych chi amser, fe allai fod yn ddefnyddiol mynd ag ychydig o bethau efo chi.
- Ffôn symudol a’r gwefrydd
- Melysion a photel o ddwr
- Arian
- Unrhyw feddyginiaeth yr ydych chi ei angen
- Sbectol os oes arnoch chi eu hangen
- Dillad sbâr
- Rhestr o gysylltiadau ar gyfer teulu, ffrindiau a rhifau pwysig eraill