Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Ffn Symudol
Yn yr Adran Hon
Ffônau Symudol
Dy Ffôn Symudol Mewn Argyfwng
GWNA
- Ffonia 999 i dderbyn cymorth gan yr heddlu, tân neu ambiwlans – ceisia peidio cyffroi a siarada'n glir wrth roi'r wybodaeth mae'r cysylltydd yn gofyn amdano. Mae bron pob ffôn symudol modern efo opsiwn 'argyfwng' sy'n golygu medri di alw am gymorth heb orfod rhoi cod i ddatgloi'r ffôn
- Mae sawl ffôn clyfar bellach efo nodwedd tortsh, neu gall lawr lwytho app tortsh am ddim. Os wyt ti'n rhywle tywyll fedri di ei ddefnyddio – neu hyd yn oed y fflach ar y camera – i oleuo dy ffordd neu i arwain y rhai sy'n dod i achub ti
- Ar ôl galw 999, galwa teulu a ffrindiau i adael iddynt wybod beth sy'n digwydd, ond cadwa'r alwad yn fyr rhag ofn bod y gwasanaethau brys angen galw ti'n ôl
- Cymera luniau os gallai helpu'r gwasanaethau brys pan fyddant yn cyrraedd
PAID
- Tweetio na rhoi diweddariad statws ar Facebook am y sefyllfa gan y gallai hyn gael ti i drafferthion os yw'n dod yn fater i'r heddlu. Mae hyn yn wir hefyd wrth nodi ble'r wyt ti ar Facebook neu Foursquare ayb gan y gallai gael effaith ar geisiadau yswiriant
- Gofidio pobl eraill yn ystod yr argyfwng drwy dynnu lluniau ohonynt ar dy ffôn symudol os nad ydynt eisiau
- Symud neu newid lleoliad ar ôl i ti ddweud wrth y timau achub ble wyt ti, os nad wyt ti mewn perygl
- Cadw'r llinell yn brysur rhag ofn bod pobl yn ceisio cael gafael arnat ti