Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Tywydd Eithafol
Yn yr Adran Hon
Tywydd Eithafol
Gallai tywydd eithafol gynnwys ton wres (heatwave) neu dywydd stormus oer iawn. Gall hyn fod yn beryglus i rai pobl, gan gynnwys yr henoed neu rhai sydd â salwch.
Ton Wres
Yn ystod ton wres:
- Defnyddia sgrin haul ffactor 15+
- Yfa llawer o ddŵr ac osgoi alcohol gan ei fod yn dihydradu ti
- Ceisia gadw allan o'r haul, neu orchuddio dy hun
- Gofala nad yw plant a chŵn yn cael eu gadael mewn ceir
- Cadwa olwg ar gymdogion mewn oed
Tywydd Stormus Oer
Yn ystod tywydd stormus oer:
- Gwrando ar y radio neu'r teledu lleol ar gyfer adroddiadau tywydd a gwybodaeth argyfwng
- Gwisga ar gyfer tywydd oer iawn efo sawl haen o ddillad cynnes, llac ac ysgafn yn hytrach nag un haen o ddillad trwm
- Cadwa olwg ar gymdogion mewn oed
Cymeradwywyd y dudalen hon gan y ferch tywydd teledu rhyfeddol, Sian Lloyd: "Edrych yn iawn i fi!" (trwy Twitter, Hydref 2013)