Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Tn



Diogelwch Tân Yn Y Cartref

Bob blwyddyn mae ymladdwyr tân yng Nghymru yn mynychu dros 2000 o danau damweiniol yn y cartref.

Gall y mwyafrif o bobl newid rhywbeth yn eu trefn ddyddiol neu bethau syml o gwmpas y cartref i leihau'r tebygrwydd o gael tân damweiniol. Dyma rhai esiamplau:

  • Paid byth â gadael coginio heb gadw golwg arno
  • Cadwa fatsis a thanwyr yn bell o gyrhaeddiad plant
  • Mae plygiau a socedi poeth, ffiwsiau sydd yn chwythu heb reswm, cryndod goleuadau a marciau llosg ar socedi neu blygiau i gyd yn arwydd o berygl – mae angen cael rhywun i edrych arnynt
  • Paid byth â gadael cannwyll yn llosgi heb gadw golwg arno a sicrhau fod canhwyllau wedi cael eu diffodd yn iawn wrth adael yr ystafell

Y ffordd gorau i amddiffyn dy hun a dy gartref ydy i gael larymau mwg sydd wedi'u gosod yn iawn. Sicrha bod larymau mwg yn cael eu ffitio yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'u bod yn cael eu cynnal yn aml. Rho brawf arnynt unwaith yr wythnos a newid y batri o leiaf unwaith y flwyddyn os nad oes ganddo fatri deg mlynedd.

Cynllun

Os ydy'r larwm mwg yn canu wyt ti'n gwybod beth i'w wneud? Fe ddylet ti:

  • Creu cynllun dianc
  • Trafod y cynllun dianc gyda phawb yn dy gartref, yn enwedig plant, yr henoed a'r anabl
  • Y llwybr dianc gorau ydy'r ffordd arferol i mewn ac allan o'r cartref felly – cadwa ef yn glir
  • Meddylia am y trafferthion gallet ti neu eraill ei gael i ddianc, er esiampl fin nos
  • Sicrha fod pawb yn gwybod ble i ddarganfod allweddau drysau a ffenestri
  • Ystyria lwybr dianc arall, rhag ofn bod y cyntaf wedi'i flocio
  • Sefydla'r ffyrdd mwyaf diogel a sydyn i ddianc o bob rhan o'r tŷ
  • Adolyga'r cynllun yn aml
  • Gwiria fod pawb yn gallu datgloi ac agor drysau
  • Cofia gau'r drysau ar dy ôl

Noddir y dudalen hon gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50