Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Mewn Argyfwng » Llifogydd



Llifogydd

  • Mae llifogydd yn effeithio pob rhan o fodolaeth ddyddiol arferol cymuned, o loches mewn eiddo domestig i wasanaethau fel tanwydd a chyflenwadau pŵer, rhwydweithiau trafnidiaeth a llinellau cyfathrebu a ffonau/cyfrifiaduron
  • Gall llifogydd hefyd arwain at lygriad cyflenwadau bwyd a dŵr
  • Gall effaith llifogydd fod yn beryglus iawn. Paid byth rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus yn agos i lifogydd
  • Cymera ofal rhag bod peryglon cudd yn y dŵr llifogydd fel pethau miniog, gorchudd twll archwilio wedi codi a llygredd
  • Gall llifogydd ddigwydd ar ôl cyfnodau o law trwm pan fydd system draenio naturiol y tir ddim yn gall ymdopi. Mae afonydd wedyn yn gorlifo ac mae dŵr yn gallu cyrraedd cartrefi a busnesau, yn aml yn achosi difrod
  • Bydd chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n sydyn yn ddigon i daro ti oddi ar dy draed, bydd pedwar modfedd o ddŵr yn difetha dy garped, a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn arnofio dy gar
  • Gall bagiau tywod atal difrod helaeth yn dy gartref. Efallai bydd nifer o ddulliau traddodiadol o amddiffyn rhag llifogydd, fel bagiau tywod, ddim yn effeithiol yn erbyn llifogydd o ddŵr daear. Mae hyn oherwydd gallai dŵr ddod i fyny trwy'r llawr ac aros yn uchel am gyfnod hir
  • Os wyt ti'n meddwl bod dy gartref mewn perygl o lifogydd yna mae yna gamau i baratoi – edrycha ar wefan yr Asiantaeth Amgylchedd, neu galwa'r Llinell Llifogydd am wybodaeth ar beryglon llifogydd: 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr)
  • Nid oes cyfrifioldeb statudol ar y Gwasanaeth Tân ac Achub i fynychu digwyddiadau o lifogydd. Ond bydd y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn ymateb i alwadau am gymorth mewn cysylltiad â llifogydd, gan gynnwys achub o ddŵr llifogydd a phwmpio allan

Beth i wneud mewn argyfwng

Gwranda ac ymateb i gyngor y gwasanaethau brys a dilyna'r camau syml yma:

  1. Rhoi pobl o flaen eiddo
  2. Symuda'r teulu a'r anifeiliaid anwes i fyny'r grisiau, gyda ffordd o ddianc
  3. Casgla eitemau angenrheidiol (fel dŵr, blancedi, tortsh, cit cymorth cyntaf, meddyginiaeth hanfodol) a'u gosod ymhell o gyrraedd y dŵr llifogydd i gadw'n sych
  4. Gwranda ar radio lleol am ddiweddariadau neu galwa'r Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188
  5. Rho blygiau yn y sinciau a'r bathau. Rho bwysau arnynt gyda bag tywod, cas obennydd neu fag plastig llawn pridd, neu rywbeth trwm i osgoi dŵr yn dod yn ôl trwy'r draen ac i mewn i'r sinciau a'r toiledau
  6. Rho gyflenwadau nwy, trydan a dŵr i ffwrdd pan fydd dŵr llifogydd ar fin dod i mewn i'r tŷ os yw hyn yn ddiogel. PAID â chyffwrdd ffynonellau trydan wrth sefyll mewn dŵr llifogydd

Gall dŵr llifogydd godi yn sydyn, arhosa'n dawel a chysuro'r rhai o'th gwmpas. Galwa 999 os wyt ti mewn perygl.

Noddir y dudalen hon gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50