Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Y Gyfraith a'r Heddlu » Yr Heddlu
Yn yr Adran Hon
Mae'r heddlu’n helpu i atal troseddu ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd.Maent hefyd yn helpu ac yn cynghori ar faterion sy’n ymwneud â throseddau, ac yn chwarae rhan mewn mentrau cymunedol sy’n helpu i adeiladu perthynas dda rhyngddyn nhw a’r cyhoedd, e.e. Disgos Golau Glas.
Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r heddlu mewn argyfwng. Os felly, dylech chi ddeialu 999. Fodd bynnag dim ond mewn argyfwng go iawn y dylech chi ddefnyddio 999! Fel arall, gallwch chi gysylltu â gorsaf leol yr heddlu trwy bencadlysoedd canolog yr heddlu a restrir isod, ynghyd â’u gwefannau.
Sir Gaer
0845 458 0000
www.cheshire.police.uk
Dyfed-Powys
0845 330 2000
www.dyfed-powys.police.uk
Gwent
01633 838111
www.gwent.police.uk
Gogledd Cymru
0845 607 1002
www.north-wales.police.uk
De Cymru
Ardal y Dwyrain: 02920 222111
Ardal y Canolbarth: 01656 655555
Ardal y Gorllewin: 01792 456999
www.south-wales.police.uk
Gorllewin Mersia
08457 444888
www.westmercia.police.uk
Mae pob un o’r gwefannau yma’n rhoi gwybodaeth gyffredinol sy’n ymwneud â materion yr heddlu, yn amrywio o yrfaoedd yn yr heddlu i wybodaeth am gyffuriau. Mae gan wefan Sir Gaer gyswllt i Cool Kids sy’n rhoi cyngor defnyddiol i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed.
Mae gan wefan De Cymru gyswllt defnyddiol iawn i Pobl Ifanc. Mae gan hon lawer o wybodaeth ddefnyddiol i unrhyw berson ifanc rhwng 11 a 25 oed, gan gynnwys pethau fel canllaw sgwrsio, dyddiadau disgos golau glas, cyngor ar yrru. Ewch i Cliw! a 24/7
Mae’n bosib eich bod chi wedi cyfarfod â Swyddog Cyswllt Ysgolion yr Heddlu trwy weithgareddau atal troseddu yn yr ysgol neu’r coleg. Mae gan rai heddluoedd swyddfeydd parhaol mewn colegau.
Ceir swyddogion cymunedol yr heddlu sy’n gweithio yng nghanol trefi a dinasoedd, a byddan nhw’n ymwneud yn benodol â materion lleol. Mae’n nhw’n hawdd iawn mynd atyn nhw a gallwch sgwrsio â nhw am bethau sy’n achosi pryder ichi. Hefyd, mae yna rif ffôn rhad ac am ddim ar gyfer Taclo’r Taclau 0800 555 111. Os byddwch chi’n ffonio’r rhif yma fe fydd eich galwad yn rhad ac am ddim ac ni fydd unrhyw un yn gofyn beth yw’ch enw. Ni fydd unrhyw un yn eich olrhain ac ni fydd fyth yn rhaid ichi fynd i’r llys.
Mae’n rhaid i’r heddlu gydymffurfio â chod ymarfer. Mae'n bosib ei ddarllen mewn unrhyw orsaf yr heddlu. Os oes gennych chi gwyn ynglyn â’r heddlu, fe ddylech gysylltu â Gorsaf yr Heddlu neu Bencadlys yr Heddlu.