Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Y Gyfraith a'r Heddlu » Cyfreithiau

Yn yr Adran Hon

Mae’r gyfraith wedi’i rhannu yn ddau gategori, sef cyfraith droseddol a chyfraith sifil.

Cyfraith Droseddol

Mae gan bob cyfraith droseddol gosbau a fydd yn cael eu gorfodi os bydd llys yn eich cael yn euog o dorri’r cyfreithiau yma. Os byddwch yn cael eich arestio a'ch cyhuddo a drosedd, yna fe fydd yn rhaid ichi fynd i’r llys a fydd yn penderfynu a ydych chi’n euog ai peidio - sef yr adeg pan fyddwch chi'n cael eich erlyn am drosedd. Os yw'r llys yn penderfynu nad ydych yn euog cewch fynd yn rhydd. Bydd y rheiny y mae’r llys yn eu cael yn euog yn cael eu heuogfarnu o’r drosedd, a rhoddir yr enw troseddwr arnyn nhw. Bydd y llys yn penderfynu ar lefel y gosb ar gyfer y drosedd, a bydd yn rhoi cychwyn i weithdrefn lle bydd y troseddwr yn talu dirwy, yn cwblhau cyfnod o wasanaeth cymunedol, neu’n dechrau ar ddedfryd o gaethiwed h.y. amser yn y carchar neu mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, neu gosb arall sy’n cael ei hystyried yn addas.

Cyfraith Sifil

Mae’r gyfraith sifil yn delio â phob maes o’r gyfraith nad yw’n droseddol. Fel dinesydd y DU, mae gennych chi hawliau, a phan fydd rhywun yn amharchu’r hawliau yma, h.y. pan fydd cyfreithiau sifil yn cael eu torri, gallwch chi fynd â’r sawl a dorrodd y gyfraith gerbron y llys. Mae’ch hawliau’n cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys gwarchodaeth plant pan fydd y rhieni’n gwahanu, addysg, tai, siopa, priodas ac ysgariad.

Cyfraith Ewrop

Mae’r DU yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac mae wedi cytuno i weithredu cyfreithiau newydd y mae gwledydd sy’n aelodau o’r UE wedi penderfynu arnyn nhw. Mae cyfraith Ewrop wedi dod yn ffynhonnell bwysig o gyfreithiau ym Mhrydain. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’n cyfreithiau cyfredol a’r rhai yn y dyfodol beidio â thorri’r egwyddorion sydd wedi’u gosod mewn cytundebau Ewropeaidd rydym ni wedi’u llofnodi.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50