Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

BBC WALES / BBC CYMRU

Postiwyd gan lisa young wrexham o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 13/04/2016 am 16:55
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Addysg, Amgylchedd, Iechyd, Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli

BBC WALES UNVEILS PLANS FOR ENGAGING VOTERS IN 2016 WELSH ASSEMBLY ELECTION, WITH COVERAGE KICKING OFF TOMORROW

•         Tour of Wales - taking TV and radio programmes on the road
•         Live BBC Wales Leaders’ Debate with Huw Edwards simulcast on BBC One Wales and the BBC News Channel
•         Live Ask the Leader TV debates where individual leaders will take questions from a studio audience
•         Comprehensive coverage on BBC One Wales, S4C, Radio Cymru and Radio Wales led by a team of expert presenters and correspondents
•         Digital coverage on desktop, mobile, tablet, BBC News and BBC Cymru Fyw apps and social media

From tomorrow, BBC Wales will offer its most comprehensive coverage ever in the run up to the 2016 Welsh Assembly election. As well as ambitious plans for election coverage on television, radio, online and mobile, BBC Wales will also travel to local communities to meet voters face to face.
BBC Wales news programmes and services will travel to key areas in Wales between Monday April 18 and Friday April 29, calling in Haverfordwest, Machynlleth, Wrexham, Caerphilly, Cardiff, and Gower.
Election campaign coverage will be led by BBC Wales’s team of presenters and political experts - Dewi Llwyd, Bethan Rhys Roberts, Nick Servini, Aled ap Dafydd, Vaughan Roderick and David Cornock. There will be expert analysis from specialist correspondents from across Wales.
Reporting and analysis of the five-week campaign will be underpinned by a comprehensive digital service, offering individual pages covering stories and candidate information from all of the Welsh constituencies.
 
Mark O’Callaghan, BBC Wales Head of News and Current Affairs, says: “This year’s election coverage will build on the success of our recent season How Wales Works, which clearly explained to our audiences how our democratic system affects day-to-day life in Wales. In the run up to May 5, our teams will be on the road, bringing all kinds of people together with the election hopefuls to spark some real scrutiny and in-depth debate.”  
 
TELEVISION
For the first time, BBC Wales will be hosting five Ask the Leader debates, over five nights from April 11, where leaders of the five main parties in Wales will take questions from a studio audience in Swansea, Aberystwyth and Llangollen. The debates will be broadcast live on BBC One Wales at 7pm each night.
 
Pawb a’i Farn on S4C will host three election debates presented by Dewi Llwyd in Aberystwyth, April 14; Llandudno, April 21; and Swansea, April 28. Detailed analysis will also be offered in Y Sgwrs on Wednesday evenings.
The Wales Report will have themed panel programmes on BBC One Wales, focusing on health, April 6; and education, April 19. Representatives of the five main parties in Wales have been invited to take part in the programmes, presented by Bethan Rhys Roberts.
Sunday Politics Wales will cover the campaign stories as they develop and offer analysis and discussion of the issues getting people talking.
On April 27, with just over a week to go to the vote, Huw Edwards will present The BBC Wales Leaders' Debate live from St David’s Hall in Cardiff. Leaders of Welsh Labour, The Welsh Conservatives, The Welsh Liberal Democrats, Plaid Cymru, UKIP in Wales and the Wales Green Party have been invited to take part to debate some of the election campaign’s burning issues and answer questions posed by an invited audience from across Wales. The programme will be shown live on BBC One Wales and the BBC News Channel at 8.30pm.
 
There will also be comprehensive coverage of the results overnight on May 5 and 6. Bethan Rhys Roberts and BBC Wales Political Editor Nick Servini will present the BBC One Wales results programme throughout election night, while Dewi Llwyd and BBC Wales Welsh Affairs Editor Vaughan Roderick will host proceedings on S4C. Both programmes will be simulcast on BBC Radio Wales and Radio Cymru and with live results, expert views, interviews with the successful and losing candidates and analysis by interactive graphics presented by Arwyn Jones.
 
RADIO
 
On BBC Radio Wales Jason Mohammad will discover what Leanne Wood, Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Kirsty Williams, and Nathan Gill have to say for themselves in a series of leader interviews, April 4-8 at 10am each day. The interviews will be an opportunity for listeners to speak directly to the leaders to find out their opinion on the issues that matter to them.
 
On Radio Wales’s Sunday Supplement, Vaughan Roderick will interview the politicians, offer alternative perspectives on campaigning and the issues that matter to voters, as well as expert analysis and debates.
 
On BBC Radio Cymru Dewi Llwyd will be presenting Hawl i Holi election editions in north Wales, April 19 and south Wales, April 26 while Vaughan Roderick will take a weekly look at how the campaign is shaping up on O’r Bae.

Good Morning Wales and Post Cyntaf will have extended broadcasts on May 6 with the latest results and analysis of what’s happened on election night and what the result might mean for Wales.
DIGITAL
BBC Wales’s online election coverage will offer political news and analysis on desktop, mobile, tablet, the BBC News and BBC Cymru Fyw apps, as well as on social media.
It will offer individual pages covering stories and information and candidate information from each of the Welsh constituencies. Key moments during the campaign will be covered by live pages featuring text updates, tweets, TV and radio clips.
BBC Wales’s digital services are also teaming up with Radio 1 Newsbeat reaching out to younger audiences with a series of animated explainers about How Wales Works.
On election night, BBC Wales will offer multimedia live pages, results, rumours and expert analysis and will be reflecting the latest developments across Wales on the @WalesPolitics Twitter account and on BBC Wales News’s Facebook.
ELECTION TOUR
BBC Wales News programmes and services will join a tour of key constituencies. As well as broadcasting live from these locations, BBC journalists will be taking the temperature among constituents.
Dates and locations are as follows, with the tent open from 7am:
•         Monday April 18: Castle Square, Haverfordwest
•         Wednesday April 20: Outside Y Plas, Machynlleth
•         Friday April 22: Queen’s Square, Wrexham
•         Monday April 25: Outside the Visitor Centre, Caerphilly
•         Wednesday April 27: The Hayes, Cardiff
•         Friday April 29: Southend Gardens, Mumbles
There will be an opportunity for audiences to visit the broadcast sites to meet BBC Wales presenters, have their say on the burning local and national issues and trying out the latest broadcast technology.
Ends
29.03.16
For further information please contact Sioned Gwyn on 029 2032 2541 / 07715 424667 / sioned.gwyn@bbc.co.uk
 
 
 
 
BBC CYMRU YN CYHOEDDI CYNLLUNIAU I YMGYSYLLTU GYDA PHLEIDLEISWYR YN YSTOD ETHOLIAD Y CYNULLIAD 2016, GYDA’R ARLWY YN DECHRAU YFORY
•         Taith o Gymru – mynd â rhaglenni teledu a radio o amgylch Cymru
•         BBC Wales Leaders’ Debate yn fyw gyda Huw Edwards wedi ei gyd-ddarlledu ar BBC One Wales a’r BBC News Channel
•         Arweinwyr y pleidiau yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa stiwdio yn ystod dadleuon teledu byw Ask the Leader
•         Rhaglenni ar BBC One Wales, S4C, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales dan arweiniad tîm o gyflwynwyr a gohebwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes
•         Arlwy ddigidol ar gyfrifiadur, dyfeisiau symudol, ap BBC News a BBC Cymru Fyw a chyfryngau cymdeithasol
Yn dechrau yfory, bydd BBC Cymru yn cynnig ei arlwy mwyaf cynhwysfawr erioed i gyd-fynd ag Etholiad y Cynulliad 2016. Yn ogystal â chynlluniau uchelgeisiol ar deledu, radio, ar-lein ac ar ddyfeisiadau symudol yn dechrau yfory, bydd BBC Cymru yn teithio i gymunedau lleol i gwrdd â phleidleiswyr wyneb yn wyneb.
Bydd rhaglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru yn teithio i etholaethau allweddol rhwng dydd Llun Ebrill 18 a dydd Gwener, Ebrill 29 gan alw yn Hwlffordd, Machynlleth, Wrecsam, Caerffili, Caerdydd a’r Gwŷr.
 
Bydd cyflwynwyr a gohebwyr arbenigol BBC Cymru - Dewi Llwyd, Bethan Rhys Roberts, Nick Servini, Aled ap Dafydd, Vaughan Roderick a David Cornock - yn arwain y sylw i ymgyrch yr Etholiad. Bydd gohebwyr o bob cwr o Gymru yn cynnig dadansoddiadau arbenigol.
 
Yn ategu’r gohebu a’r dadansoddi yn ystod yr ymgyrch pum wythnos, bydd gwasanaeth digidol cyflawn, yn cynnig tudalennau unigol yn cwmpasu straeon a gwybodaeth am bob ymgeisydd yn yr etholaethau Cymreig.
 
Meddai Mark O’Callaghan, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru: “Bydd darllediadau etholiadol eleni yn adeiladu ar lwyddiant ein tymor diweddar How Wales Works, a oedd yn esbonio yn glir i'n cynulleidfaoedd sut mae ein system ddemocrataidd yn effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru. Yn y cyfnod yn arwain at 5 Mai, bydd ein timau ar y lon, gan ddod â phob math o bobl at ei gilydd ynghyd â’r ymgeiswyr i danio a trafodaeth."
 
TELEDU
 
Am y tro cyntaf, bydd BBC Cymru yn cynnal 5 dadl Ask the Leader, dros bum noson o Ebrill 11, lle bydd arweinwyr y pum prif plaid yng Nghymru yn ateb cwestiynau gan aelodau o gynulleidfa stiwdio yn Abertawe, Aberystwyth a Llangollen. Bydd y dadleuon yn cael eu darlledu’n fyw ar BBC One Wales bob nos am 7pm.
Bydd Pawb a’i Farn ar S4C yn cynnal tair dadl etholiadol wedi eu cyflwyno gan Dewi Llwyd yn Aberystwyth, Ebrill 14; Llandudno, Ebrill 21; ac Abertawe, Ebrill 28. Bydd dadansoddi manwl yn rhan o Y Sgwrs bob nos Fercher.
Ar The Wales Report ar BBC One Wales bydd panelau arbennig yn canolbwyntio ar themâu penodol – ar iechyd, Ebrill 6 ac ar addysg, Ebrill 19. Mae cynrychiolwyr o’r pum prif plaid wedi eu gwahodd i fod yn rhan o’r rhaglenni, a gyflwynir gan Bethan Rhys Roberts.
Daw Sunday Politics Wales â’r straeon diweddaraf gan gynnig dadansoddiad a thrafodaeth ar faterion y foment.
 
Ar Ebrill 27, gyda thipyn dros wythnos i fynd cyn y bleidlais, bydd Huw Edwards yn cyflwyno The BBC Wales Leaders' Debate yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae arweinwyr Llafur Cymru,  y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, UKIP yng Nghymru a’r Blaid Werdd yng Nghymru wedi eu gwahodd i gymryd rhan er mwyn trafod rhai o bynciau llosg yr ymgyrch etholiad ac ateb cwestiynau gan gynulleidfa fydd wedi eu gwahodd o bob cwr o Cymru. Bydd y rhaglen yn fyw ar BBC One Wales a’r BBC News Channel am 8.30pm.
Bydd darlledu cynhwysfawr o’r canlyniadau dros nos ar Mai 5 a 6. Bethan Rhys Roberts a Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Nick Servini fydd yn cyflwyno’r rhaglen ganlyniadau gydol noson yr etholiad ar BBC One Wales, tra  bydd Dewi Llwyd a Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, yn cyfwyno’r arlwy S4C. Bydd y rhaglen yn cael eu cyd-ddarlledu ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru ac yn cynnwys canlyniadau byw, barn arbenigol, cyfweliadau gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus a dadansoddi gyda graffeg rhyngweithiol wedi ei gyflwyno gan Arwyn Jones. 
 
RADIO
 
Ar BBC Radio Wales bydd Jason Mohammad yn canfod beth sydd gan Leanne Wood, Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Kirsty Williams, a Nathan Gill i’w ddweud mewn cyfres o gyfweliadau, rhwng Ebrill 4-8 am 10am bob dydd. Bydd y cyfweliadau yn gyfle i wrandawyr siarad yn uniongyrchol gyda’r arweinwyr a darganfod eu safbwynt ar y pynciau sydd o bwys iddyn nhw.
 
Ar Sunday Supplement, bydd Vaughan Roderick yn holi gwleidyddion, yn cynnig persbectif amgen ar yr ymgyrchu a’r materion sy’n bwysig i bleidleiswyr, yn ogystal â dadansoddi arbenigol a thrafodaethau.
Ar BBC Radio Cymru, Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno rhifynnau etholiad o Hawl i Holi yng Ngogledd Cymru ar Ebrill 19 a De Cymru ar Ebrill 26, tra  bydd Vaughan Roderick yn edrych yn wythnosol ar sut siâp sydd ar yr ymgyrchu yn O’r Bae.
 
Bydd gan Good Morning Wales a Post Cyntaf ddarllediadau estynedig ar Fai 6 gyda’r canlyniadau a dadansoddi diweddaraf o’r hyn sydd wedi digwydd ar noson yr etholiad a’r hyn y gall y canlyniad ei olygu i Gymru.
DIGIDOL
Bydd arlwy ar-lein BBC Cymru yn cynnig newyddion a dadansoddi gwleidyddol ar gyfrifiadur, dyfeisiau symudol, ap BBC News a BBC Cymru Fyw yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol.
Bydd yn cynnig tudalennau unigol yn cwmpasu straeon a gwybodaeth am bob ymgeisydd yn yr etholaethau Cymreig. Bydd sylw i’r digwyddiadau allweddol ar dudalennau byw gan gynnwys diweddariad testun, negeseuon trydar, a chlipiau teledu a radio.
Bydd gwasanaethau digidol BBC Cymru yn cydweithio gyda Radio 1 Newsbeat er mwyn ymestyn at gynulleidfaoedd iau gyda chyfres o glipiau animeiddiedig esboniadol am How Wales Works.
Ar noson yr etholiad, bydd gwasanaethau digidol BBC Cymru yn cynnig tudalennau byw, amlgyfrwng, canlyniadau, sïon a dadansoddi gan arbenigwyr fydd yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf ar draws Cymru ar gyfrif Twitter @WalesPolitics ac ar dudalen Facebook BBC Wales News.
 
TAITH YR ETHOLIAD
Bydd holl raglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru yn ymuno â thaith o etholaethau allweddol. Yn ogystal â darlledu’n fyw o’r lleoliadau yma, bydd newyddiadurwyr y BBC yn holi etholwyr i brofi’r tymheredd.
Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn, gyda’r babell ar agor o 7am
 
•         Dydd Llun 18 Ebrill                          Sgwâr y Castell, Hwlffordd
•         Dydd Mercher 20 Ebrill                   Tu allan Y Plas, Machynlleth
•         Dydd Gwener 22 Ebrill                    Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
•         Dydd Llun 25 Ebrill                          Tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr, Caerffili
•         Dydd Mercher 27 Ebrill                   Yr Aes, Caerdydd
•         Dydd Gwener 29 Ebrill                    Gerddi Southend, Y Mwmbwls
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ymweld â’r safleoedd darlledu i gwrdd â chyflwynwyr BBC Cymru, dweud eu dweud ar bynciau llosg lleol a chenedlaethol yn ogystal â phrofi’r dechnoleg darlledu ddiweddaraf.
Diwedd
29.04.16
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Sioned Gwyn ar 029 2032 2451 / 07715 424 667 sioned.gwyn@bbc.co.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50