Holiadur Haf Blynyddol Cymru Ifanc 2016
Croeso i holiadur haf blynyddol cyntaf Cymru Ifanc.
Bob blwyddyn bydd Cymru Ifanc yn cyhoeddi holiadur, sydd wedi ei ddatblygu gan ein Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc, gan dynnu ar Sylwadau Casgliadol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a gafodd eu cyhoeddi yn 2016.
Bydd y dystiolaeth sy'n cael ei chasglu o'r holiadur yn cael ei defnyddio i lywio gwaith Cymru Ifanc ac i gyfrannu at dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno mewn ymateb i alwadau am dystiolaeth am UNCRC yn y dyfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Hydref 2016.
Mae'r holiadur ar gael yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/TZM78VF