Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau Defnyddwyr » Siopa
Yn yr Adran Hon
Siopa
Mae’n ddefnyddiol gwybod dy hawliau fel defnyddiwr cyn y byddi di'n talu arian, a gwybod beth i’w wneud os bydd nam ar nwyddau:
- Cadwa dy dderbynneb bob amser pan fyddi di’n prynu nwyddau, gan fod y rhain yn brawf dy fod wedi prynu’r eitem mewn siop benodol neu oddi wrth fasnachwr penodol. Gofynna am dderbynneb os na fydd un yn cael ei chynnig
- Os wyt ti'n prynu rhywbeth ar-lein, sicrha dy fod di'n cadw manylion yr archeb neu brawf prynu. Edrycha ar eu polisi dychwelyd nwyddau hefyd. Os wyt ti'n prynu rhywbeth ail law gan rywun, weithiau maent yn dweud yn glir nad ydynt yn derbyn nwyddau yn ôl
- Os wyt ti'n prynu rhywbeth o bapur newydd neu gylchgrawn, cadwa'r hysbyseb a chofia ei bod yn bosib y bydd cwmnïau’n mynd i'r wal cyn i ti dderbyn dy nwyddau
- Os byddi di’n prynu eitem ac yna’n sylweddoli bod yna nam arni, paid â pharhau i ddefnyddio’r eitem a naill ai anfona hi’n ôl neu cer â hi’n ôl i’r lle y prynwyd. Fe ddylet ti fod â hawl i gael dy holl arian yn ôl
- Os bydd y masnachwr yn trwsio’r eitem ac mae nam arni eto, mae gen ti hawl i gael dy arian yn ôl
- Os byddi di’n prynu eitem mewn sêl sy’n dweud bod nam arni, yna ni fyddi di'n gallu cael dy arian yn ôl os byddi di’n rhoi gwybod am y nam yn ddiweddarach
- Bydd gwarant yn dy ddiogelu os bydd rhywbeth yn mynd o chwith gydag eitem newydd ac fel arfer bydd yn manylu ar sut i hawlio
- Efallai y byddi di’n cael cynnig gwarant estynedig ond fe fydd yn rhaid i ti dalu am hyn, felly ystyria a yw’n werth yr arian