Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau Defnyddwyr » Siopa Ar-lein

Yn yr Adran Hon



Siopa Ar-lein

Mae siopa ar-lein yn gyfleus iawn - ddim yn gorfod gadael y tŷ, siopa unrhyw amser o'r dydd a chael amrywiaeth eang o nwyddau i ddewis ohonyn nhw. Mae'n gallu gwneud y math yma o siopa yn hwyl.

Ond mae yna nifer o beryglon ynghlwm wrth siopa ar-lein a all achosi i ti golli dy arian neu alluogi rhywun i ddefnyddio dy gerdyn credyd yn dwyllodrus oni bai dy fod di’n ofalus ac yn dilyn ychydig o ragofalon:

  • Teipia gyfeiriad y wefan yn ofalus - archwilia'r wefan cyn prynu i fod yn gwbl sicr
  • Mae achosion wedi codi lle mae copïau o wefannau wedi’u sefydlu sy’n edrych yn union yr un fath â’r wefan go iawn er mwyn dwyn manylion dy gerdyn credyd neu ddebyd
  • Defnyddia gwefannau mae teulu neu ffrindiau wedi defnyddio fel dy fod di'n gwybod eu bod yn ddiogel
  • Paid â phrynu o wefannau nad ydyn nhw’n nodi rhif ffôn a chyfeiriad post llawn, bydd y mwyafrif efo tystysgrif diogelwch i dawelu dy feddwl eu bod nhw'n ddiogel
  • Sicrha dy fod di’n ymwybodol o’r holl gostau, fel post a phecynnu a TAW - mewn rhai achosion dim ond ar y diwedd pan wyt ti ar fin talu bydd y rhain yn cael eu hychwanegu
  • Mae'r mwyafrif o wefannau diogel y dyddiau hyn efo clo clap gwyrdd sy'n ymddangos yn gornel chwith top y bar cyfeiriad pan fyddant yn gofyn am dy fanylion talu - mae hyn i dawelu dy feddwl fod hwn yn wefan diogel
  • Ffordd dda o sicrhau bod dy fanylion banc yn ddiogel ydy i agor cyfrif Paypal. Mae hwn yn wefan diogel sydd yn trin â thaliadau i ti am unrhyw siopa ar-lein os wyt ti'n agor cyfrif gyda nhw. Mae'r mwyafrif o wefannau yn derbyn Paypal sy'n golygu nad oes rhaid i ti byth ddarparu dy fanylion cyfrif banc iddyn nhw yn uniongyrchol
  • Os wyt ti'n defnyddio Ebay neu wefannau eraill ar gyfer siopa edrycha ar y polisi dychwelyd rhag ofn i ti newid dy feddwl neu fod y nwyddau yn ddiffygiol. Hefyd, sicrha dy fod di'n edrych ar y termau talu, mae rhai gwerthwyr yn disgwyl taliad yn syth tra bydd eraill yn derbyn taliad hyd at bum diwrnod ar ôl i ti gytuno prynu’r eitem
  • Mae’n bosib y bydd nwyddau o dramor yn cymryd mwy o amser i gyrraedd, felly ceisia osod dyddiad i’w derbyn; mae’n rhaid i hwn fod cyn pen 30 diwrnod
  • Hefyd, os byddi di’n prynu o dramor, mae'r contract gyda rhywun o dramor ac fe allai fod yn anodd cael dy arian yn ôl os oes yna broblem
  • Argraffa neu gymryd ciplun o'r archeb a’r amodau a thelerau sy’n ymddangos ar y wefan, rhag ofn y bydd yna broblemau
  • Fe ddylet ti dderbyn e-bost yn cadarnhau'r archeb o fewn 24 awr

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50